Wythnos cyn i gyfnod ymgeisio diweddaraf ddod i ben, mae Lesley Griffiths wrthi’n annog pobl ifanc i ddysgu mwy am y cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc ac ystyried ymgeisio.
Yn gynharach eleni, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet y cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc, sy’n werth £6 miliwn, i helpu newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant.
Bydd y cynllun yn cynnig cymorth ariannol i unigolion llwyddiannus sydd am sefydlu neu ehangu busnes. Rhaid i ymgeiswyr ddangos bod ganddynt y rhinweddau sydd eu hangen i arwain busnesau deinamig ac ysgogi newid yn y diwydiant ehangach.
Ar ôl y cyfnod cyntaf, aeth 106 o bobl ifanc ymlaen i’r cam nesaf. Yn ddiweddar, yn ystod Sioe Frenhinol Cymru, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet gyfnod newydd ar gyfer ceisiadau, sy’n dod i ben yr wythnos nesaf ar 29 Awst.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Ffermwyr ifanc yw dyfodol amaethyddiaeth a dyna pam mae denu’r ymgeiswyr ifanc mwyaf uchelgeisiol i’r diwydiant yn un o fy mlaenoriaethau. A dyma nod ein Cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc sy’n werth £6 miliwn. Dw i wrth fy modd bod 106 o bobl eisoes wedi llwyddo i gyrraedd y cam nesaf.
Mae 150 o leoedd ar gael ar y cynllun ac yn Sioe Frenhinol Cymru cyhoeddais y bydd cyfnod ymgeisio newydd. Â dim ond wythnos i fynd cyn y dyddiad cau, mae fy neges i bobl ifanc uchelgeisiol yn un syml - dysgwch fwy am y cymorth sylweddol sydd ar gael drwy’r cynllun i sbarduno’ch busnes ffermio a’ch gyrfa yn y dyfodol.
“Dim ond ychydig dros saith mis sydd ar ôl cyn inni adael yr Undeb Ewropeaidd ac rydym yn cydweithio â’r diwydiant i’w helpu i baratoi ar gyfer y newid a’r heriau sydd ar y gorwel."