Neidio i'r prif gynnwy

Mae addysg yn newid

Cyflwynwyd y cwricwlwm cenedlaethol am y tro cyntaf yn 1988; oes cyn siopa ar-lein, cyn Google a chyn y Cwmwl. Bellach, mae gwaith yn wahanol, mae technoleg yn wahanol, ac mae cymdeithas yn newid.

Bydd cwricwlwm newydd, wedi’i wneud yng Nghymru gan athrawon, partneriaid, ymarferwyr a busnesau ac wedi'i lunio gan y syniadau gorau o bob cwr o'r byd. 

Bydd yn eu cymhwyso gyda safon uchel o lythrennedd a rhifedd, ac yn eu paratoi i ddod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, ac i fod yn ddinasyddion hyderus, galluog a thosturiol – dinasyddion Cymru a dinasyddion y byd.

Mae ein cwricwlwm wedi’i wneud yng Nghymru gan athrawon, partneriaid, ymarferwyr a’r gymuned ehangach, wedi'i lunio gan y syniadau gorau o bob cwr o'r byd. 

Mae asesu yn rhan o ddysgu dyddiol bob plentyn a byddant yn gweithio gyda'u hathrawon i ddeall pa mor dda y maent yn gwneud.  

Cyflwynir y cwricwlwm newydd yn raddol, felly erbyn 2026 bydd pob dysgwr yn dysgu trwy’r Cwricwlwm i Gymru.

Canllaw i Cwricwlwm i Gymru newydd

Mae'r canllawiau hyn yn esbonio'r cwricwlwm newydd mewn ffordd syml.

Bydd ysgolion yn symud ymlaen gyda chynllunio eu cwricwlwm yn seiliedig ar y gyfres o Ganllawiau Cwricwlwm

Sut gallai hyn edrych mewn ysgolion?

Duwedodd athrawon, disgyblion a rhieni Ysgol Bro Edern wrthym am eu profiadau o ddatblygu'r cwricwlwm yn eu hysgol.

Beth yw barn Llywodraethwyr Ysgol?

Y Pennaeth a rhiant-Lywodraethwr yn siarad am y newidiadau yn Ysgol Bontnewydd.

A fydd newidiadau i'r flwyddyn ysgol?

Bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'i hymrwymiad maniffesto i adolygu rhythm y flwyddyn ysgol, drwy sgwrs genedlaethol, gyda chyfleoedd i rieni, dysgwyr, staff addysg, gweithwyr y sector preifat a chyhoeddus a chyflogwyr roi eu barn.

A fydd y ffordd y mae plant yn dysgu yn newid?

Ni fydd y  cwricwlwm yn cael ei drefnu yn ôl Cyfnodau Allweddol. . Bydd egwyddorion y Cyfnod Sylfaen, Dysgu Sylfaen erbyn hyn, yn parhau ac yn dod yn ran o un cwricwlwm di-dor i blant 3-16 oed: bydd hyn yn sicrhau dysgu mwy cydgysylltiedig. 

Mae disgwyliadau'n cael eu fframio'n eang fel y gallant gynnal dysgu dros nifer o flynyddoedd. Er bod y continwwm dysgu yr un peth ar gyfer pob dysgwr, bydd cyflymder y cynnydd drwyddo yn wahanol. O ganlyniad, dim ond yn fras y gall y camau dilyniant gyfateb i'r disgwyliadau yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed.

A gaiff pynciau traddodiadol eu dysgu o hyd?

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn grwpio pynciau yn chwe maes dysgu a phrofiad. Bydd pynciau penodol yn dal i gael eu haddysgu, ond gall ysgolion benderfynu dod â nhw at ei gilydd fel bod dysgwyr yn deall y cysylltiadau rhyngddynt. Yn yr Adran Dyniaethau er enghraifft gellir edrych ar bwnc fel newid yn yr hinsawdd yn holistaidd drwy ddaearyddiaeth, hanes ac effaith ar gymdeithas. Bydd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn cael eu haddysgu a'i gymhwyso ar draws y cwricwlwm i bawb drwy gydol eu haddysg.

Mae'r chwe maes dysgu a phrofiad fel a ganlyn:

  • Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Iechyd a Lles
  • Y Dyniaethau
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd 
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae gan y canllawiau Fframwaith ragor o wybodaeth am bob un o’r meysydd dysgu a phrofiad.

Beth fydd yn digwydd o ran asesu?

Bydd asesiadau’n parhau i ddigwydd o ddydd i ddydd i asesu cynnydd pob unigolyn, i gytuno ar y camau nesaf ac i fonitro cynnydd dros amser. Ni chaiff ei ddefnyddio i lunio barn untro ar oedran penodol neu bwynt mewn amser.

A fydd plant yn dal i wneud TGAU?

Bydd cymwysterau TGAU yn dal i fodoli ond bydd y cymwysterau bydd eich plentyn yn astudio o 14-16 yn cyd-fynd â Cwricwlwm i Gymru, ac felly gallent edrych yn wahanol i gymwysterau TGAU heddiw.

Cymwysterau Cymru yw'r rheoleiddiwr annibynnol ar gymwysterau nad ydynt yn radd yng Nghymru. Mae mwy o wybodaeth am gymwysterau ar gael ar eu gwefan.

Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth ac arweiniad gyrfaoedd.

Beth sy'n newid gydag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh)?

Yn 2022 bydd cod newydd yn nodi'n glir yr hyn y dylid ei ddysgu mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Bydd yn cynnwys dysgu am gydberthnasau iach, a chadw'n ddiogel, gan gynnwys ar-lein, a bod yn hyderus wrth godi materion gydag oedolion cyfrifol.  Bydd y dysgu yn briodol yn ddatblygiadol i ddysgwyr ac yn meithrin gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd yn raddol wrth iddynt ddatblygu.

Mae amrywiaeth o wahanol grwpiau, gan gynnwys grwpiau ffydd a grwpiau sy'n cynrychioli buddiannau pobl ifanc wedi helpu i ddatblygu’r cod.

Am rhagor o wybodaeth Hwb (LLYW.CYMRU)