
Mae addysg yn newid
“Cenhadaeth ein cenedl yng Nghymru yw codi safonau, gwella cyrhaeddiad ein plant a sicrhau bod gennym system addysg y gall y genedl fod yn falch ohoni ac y gall y cyhoedd hyderu ynddi.
Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg
Beth sy’n newid?
Y newid mwyaf yw cwricwlwm newydd i ysgolion a lleoliadau a gyllidir nas cynhelir (megis lleoliadau gofal dydd sesiynol fel grwpiau chwarae a chylchoedd meithrin neu feithrinfeydd dydd preifat sydd wedi’u cofrestru i ddarparu addysg) yng Nghymru o fis Medi 2022 ymlaen. Bydd hyn yn effeithio ar bob ysgol, ac eithrio ysgolion annibynnol. Mae'r cwricwlwm wedi'i lunio yng Nghymru gyda'r syniadau gorau o bob cwr o'r byd yn dylanwadu arno.
Bydd hefyd newidiadau i’r ffordd rydym yn asesu plant a phobl ifanc mewn addysg, yn cynorthwyo plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn darparu hyfforddiant ac atebolrwydd athrawon ac ymarferwyr. Bydd y gwelliannau hyn yn ategu'r cwricwlwm newydd.
Pam fod angen inni wneud y newidiadau hyn?
Mae tystiolaeth o arolygon rhyngwladol a gwerthusiadau gan Estyn (arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru), yn awgrymu nad yw lefelau cyrhaeddiad mor uchel ag y gallent fod.
Cyflwynwyd y cwricwlwm cenedlaethol am y tro cyntaf yn 1988; oes cyn siopa ar-lein, cyn Google a chyn y Cwmwl. Bellach, mae gwaith yn wahanol, mae technoleg yn wahanol, ac mae cymdeithas yn newid. Rhaid i'r cwricwlwm baratoi pobl ifanc at y dyfodol; eu paratoi i lwyddo mewn byd lle mae sgiliau digidol, creadigrwydd a'r gallu i addasu - ynghyd â gwybodaeth - yn hanfodol. Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried
“O ystyried graddfa a chyflymder y newid, mae'n debygol y bydd llawer o blant yn yr ysgol gynradd heddiw yn gweithio mewn swyddi sydd naill ai ddim yn bodoli heddiw, neu o leiaf mae’r tasgau cyfansoddol yn wahanol iawn i rai heddiw
Dyfodol Gwaith yng Nghymru, Mair Bell, Dan Bristow a Steve Martin, Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru
(1 Tachwedd 2017)
Ers iddo gael ei greu, mae'r cwricwlwm wedi mynd yn gul, yn anhyblyg ac yn orlawn - mae bellach yn cyfyngu ar ryddid athrawon ac ysgolion i fod yn greadigol.
Rydyn ni eisiau i blant fwynhau dysgu – gan ddatblygu sgiliau, gwybodaeth, a chydnerthedd emosiynol. Erbyn iddynt droi'n 16 oed, dylai pobl ifanc fod yn uchelgeisiol, yn wybodus, yn llawn menter, ac yn barod i chwarae rôl yn y gymuned a chymdeithas. Dylent fod yn barod i ffynnu yn y byd gwaith newydd.
Pryd fydd hyn yn digwydd?
Caiff y cwricwlwm newydd ei ddysgu ym mhob ysgol a lleoliad a gyllidir nas cynhelir hyd at Flwyddyn 7 o fis Medi 2022 ymlaen. Yna caiff ei gyflwyno fesul blwyddyn nes ei fod yn cynnwys Blwyddyn 11 erbyn 2026.
2022 |
2023 | 2024 | 2025 | 2026 | |
---|---|---|---|---|---|
Hyd at Flwyddyn 7 | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Blwyddyn 8 | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Blwyddyn 9 | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Blwyddyn 10 | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Mlwyddyn 11 | ![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Cwricwlwm presennol | ![]() |
Cwricwlwm newydd |
Mae'r Canllaw Cwricwlwm newydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer ysgolion erbyn hyn (Ionawr 2020). Bydd arweinwyr ysgolion ac athrawon yn derbyn cefnogaeth a hyfforddiant i'w helpu i ddod â hi'n fyw, rhwng nawr a 2022.
Mae fersiwn plant a phobl ifanc o'r cwricwlwm newydd yn ei gwneud yn hygyrch i'r gynulleidfa iau.
Caiff trefniadau newydd ar gyfer asesu disgyblion eu cyflwyno i gyd-fynd â'r cwricwlwm. Bydd y rhain yn helpu dysgwyr, a'u rhieni, i ddeall eu perfformiad a'r hyn sydd angen iddynt wneud nesaf.
Rydym yn gwneud gwelliannau ar hyn o bryd i'r ffordd rydym yn cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Nesaf, byddwn yn rhoi mwy o bwyslais ar les y corff a'r meddwl, fel bod plant yn barod i ddysgu yn yr ysgol a delio â heriau bywyd.
Sut gallai hyn edrych mewn ysgolion?
Disgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn rhoi eu barn ar sut mae eu cwricwlwm yn cael ei gyflwyno.
A fydd oriau ysgol yn newid?
Bydd plant yn cael eu haddysgu gan athrawon cymwys o hyd, ac ni fydd unrhyw newid i oriau ysgol na gwyliau ysgol.
A fydd y ffordd y mae plant yn dysgu yn newid?
Bydd y ffordd y mae plant yn dysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn wahanol. Bydd dysgu'n cynnwys sgiliau a phrofiadau, yn ogystal â gwybodaeth. Bydd yn rhoi mwy o ryddid i athrawon addysgu mewn ffyrdd sydd, o'u safbwynt nhw, yn mynd i sicrhau'r deilliannau gorau i'w myfyrwyr.
Beth am y Cyfnodau Allweddol presennol?
Bydd Cyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 yn diflannu. Bydd egwyddorion y Cyfnod Sylfaen yn parhau, ond bydd hynny'n rhan o un cwricwlwm di-dor i blant 3-16 oed: bydd hyn yn sicrhau dysgu mwy cydgysylltiedig.
Bydd yna 'Gamau Cynnydd' pan fydd plant yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed a fydd yn cyfateb i ddisgwyliadau bras ar gyfer cynnydd plentyn ar yr oedrannau hynny.
A gaiff pynciau traddodiadol eu dysgu o hyd?
Caiff pynciau eu grwpio'n chwe 'Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh)' - ond nid yw hyn yn golygu diwedd pynciau traddodiadol. Er enghraifft, ym MDPh y Dyniaethau, bydd Hanes yn cael ei addysgu o hyd, ond efallai mewn cyd-destun ehangach drwy gymharu effeithiau cymdeithasol a chrefyddol i'r hyn sy'n digwydd heddiw.
Mae'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad fel a ganlyn:
- Y Celfyddydau Mynegiannol
- Iechyd a Lles
- Y Dyniaethau
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Gwyliwch ein fideos a’n cyflwyniadau am ragor o wybodaeth am bob un o’r meysydd dysgu a phrofiad.
Beth fydd yn digwydd o ran asesu?
Bydd plant yn dal i gael eu hasesu a bydd hyn yn ffocysu ar sicrhau bod disgyblion yn deall ym mhle y maen nhw a beth sydd angen iddyn nhw ei wneud i symud ymlaen a gwneud cynnydd. Mae'r newidiadau'n cynnwys symud o'r profion Cenedlaethol i Asesiadau Personol ar-lein.
A fydd plant yn dal i wneud TGAU?
Mwy na thebyg, bydd TGAU yn parhau i fodoli. Fodd bynnag, bydd angen iddynt newid dros amser i gyd-fynd â'r cwricwlwm. Felly, yn y pen draw, efallai y byddant yn eithaf gwahanol i'r TGAU sydd gennym heddiw. Awn ati i wella'r cyngor a'r cymorth a roddir i ddisgyblion o ran eu dewisiadau wrth iddynt baratoi am eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Beth sy'n newid gydag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh)?
Bydd cod newydd yn egluro'r hyn y dylid ei addysgu o fewn ACRh. Bydd yn cynnwys dysgu am gydberthynasau iach, cadw'n ddiogel gan gynnwys ar-lein, a bod yn hyderus i godi materion gydag oedolion cyfrifol. Bydd yr addysgu'n briodol yn ddatblygiadol i’r oedran, gan feithrin gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd moesegol dysgwyr yn raddol.
Mae grwpiau ffydd ac eraill sy'n cynrychioli diddordebau plant yn helpu gweithwyr addysgu proffesiynol i ddatblygu'r cod. Ymgynghorir arno cyn iddo gael ei gwblhau'n derfynol. I gael gwybod pryd mae'r ymgynghoriad yn fyw, cofrestrwch ar gyfer rhybuddion Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y cod a'r broses, darllenwch y daflen hon.