Mae addysg yn newid - gwybodaeth i fusnesau
Mae angen i addysg baratoi pobl ifanc ar gyfer dyfodol sy'n newid yn gyflym a byd gwaith. Mae addysg yng Nghymru yn newid wrth i gwricwlwm newydd gael ei gyflwyno yn 2022.
Bydd llythrennedd digidol yn dod yn ofyniad trawsgwricwlaidd craidd, ynghyd â llythrennedd a rhifedd. Bydd sgiliau ehangach fel gwydnwch, cyfathrebu a datrys problemau yn helpu pobl ifanc i gymhwyso'r wybodaeth maent yn ei chaffael yn yr ysgol a'u cymhwyso i sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Erbyn i blant adael yr ysgol bydd ganddyn nhw sgiliau datrys problemau, byddan nhw'n dda am gyfathrebu, a byddan nhw'n hyderus wrth weithio mewn timau.
Bydd dealltwriaeth o fyd gwaith yn dechrau o oedran cynnar. Bydd yr holl blant a phobl ifanc mewn ysgolion cynradd yn ogystal ag uwchradd yn gallu dysgu am yrfaoedd.
Bydd pynciau traddodiadol yn cael eu rhannu'n chwe maes dysgu. Bydd pynciau'n dal i gyfrif, ond heb ffiniau fel bod disgyblion yn cael cyd-destun ehangach. Er enghraifft, gallai athrawon gynnwys entrepreneuriaeth fel rhan o Wyddoniaeth a Thechnoleg neu'r Celfyddydau Mynegiannol.
“Mae dros ddwy ran o dair o gyflogwyr (70%), yn graddio sgiliau llythrennedd a rhifedd fel un o'u tair ystyriaeth bwysicaf wrth recriwtio ymadawyr ysgol a Choleg, ond bron hanner (45%) o fusnesau yn rancio dawn a pharodrwydd ar gyfer gwaith fel y sengl ffactor pwysicaf”
Educating for the Modern World, CBI/Pearson Education and Skills Annual Report, Tachwedd 2018
A fydd cymwysterau'n newid?
Gall cymwysterau yn 16 oed newid. Bydd angen i gymwysterau addasu dros amser i adlewyrchu'r cwricwlwm sy'n newid, felly efallai y byddant yn edrych yn dra gwahanol i TGAU heddiw ond ni fydd hyn yn digwydd tan 2025.
Bydd Cymwysterau Cymru yn ymgynghori yn yr Hydref 2019 ar gymwysterau yn y dyfodol – academaidd a galwedigaethol – a sut y maent yn cysylltu â chwricwlwm drafft Cymru 2022.
Sut y gallwch chi gymryd rhan fel busnes?
Pan fydd y cwricwlwm yn fyw, gobeithiwn y byddwch yn cysylltu ag ysgolion i gynnig profiadau a phrosiectau sy'n helpu pobl ifanc i ddeall byd busnes a gwaith.
Mae Gyrfa Cymru yn hwyluso'r Gyfnewidfa Addysg Busnes i roi cyfleoedd i ddatblygu rhaglenni cyffrous i wella'r cwricwlwm i ddysgwyr.