Am y seithfed mis yn olynol, mae Cymru wedi gwneud yn well na gweddill y DU o ran y gostyngiad yn y gyfradd ddiweithdra
Wrth sôn am Ystadegau'r Farchnad Lafur diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw (19 mis Hydref 2016), dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
“Am y seithfed mis yn olynol, mae Cymru wedi gwneud yn well na gweddill y DU o ran y gostyngiad yn y gyfradd ddiweithdra. Erbyn hyn, mae’r gyfradd honno’n 4.3% yng Nghymru, sef 0.7 pwynt canran yn is na chyfartaledd y DU a gostyngiad o 1.7 pwynt canran dros y 12 mis diwethaf. Gwelwyd gostyngiad yn ystod y flwyddyn hefyd mewn anweithgarwch economaidd ac yn nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau.
“Mae 73.5% yn gyflogedig yng Nghymru ar hyn o bryd, sef y gyfradd uchaf erioed, ac mae 38,000 yn fwy o weithwyr cyflogedig ar draws Cymru nag ar yr un adeg y llynedd.
“Rydym yn uchelgeisiol iawn dros Gymru a’i heconomi a byddwn yn parhau i weithio’n galed i gefnogi busnesau ac i sicrhau’r amodau economaidd a fydd yn creu ac y diogelu swyddi a hyfforddiant cynaliadwy yng Nghymru. Dyna pam yr ydym yn buddsoddi £111 miliwn y flwyddyn nesaf i gyllido’n rhaglen prentisiaethau a hyfforddeiaethau ar gyfer pobl o bob oed, er mwyn cyrraedd ein targed o greu 100,000 o leoedd prentisiaeth yn ystod oes y llywodraeth hon.
“Rydym hefyd yn dyrannu swm ychwanegol o £46 miliwn i Fanc Datblygu Cymru, sefydliad newydd a fydd yn ei gwneud yn haws i filoedd o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru fenthyca arian, a hynny er mwyn helpu i wireddu’r flaenoriaeth o greu a diogelu swyddi ym mhob cwr o Gymru.”