Mae dros £1 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gael i roi hwb i'r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaeth yng Nghymru.
Nod y cynllun yw sicrhau twf cynaliadwy yn y sector a helpu cymunedau arfordirol i ffynnu.
Mae'r £1.4 miliwn ar gael o £700,000 o gyllid refeniw a £700,000 o gyllid cyfalaf. Bydd y cyfnod ymgeisio yn parhau ar agor am 10 wythnos, gan gau ar 24 Mawrth. Gellir cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau drwy'r cynllun o dan 11 categori ar wahân.
Mae'r gweithgareddau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol:
- Cyllid i gynyddu potensial safleoedd dyframaeth ac offer ar gychod gyda'r nod o leihau allyriadau a chynyddu effeithlonrwydd ynni;
- Cyngor proffesiynol i fusnesau sy'n amrywio o gynaliadwyedd yr amgylchedd morol i gynlluniau busnes a marchnata;
- Gallai ymgeiswyr hefyd wneud cais am gyllid ar gyfer eitemau iechyd a diogelwch dewisol ar fwrdd cychod neu ar y tir.
Roedd y cylch ariannu diwethaf yn darparu grantiau ar gyfer amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys eitemau fel peiriannau iâ, peiriannau naddu iâ, cloriannau, blychau oeri i bysgotwyr, addasiadau i gychod i wella effeithlonrwydd ynni, a phrosiectau casglu tystiolaeth forol.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:
Mae Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru wedi'i gynllunio i greu cyfleoedd o fewn yr amgylchedd morol, cymunedau arfordirol a bwyd môr cynaliadwy ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan, o gynhyrchu i brosesu a marchnata.
Mae ein sector dyframaethu, morol a physgodfeydd yn dod â llawer o fanteision pwysig. Mae'n darparu ffynhonnell fwyd protein carbon isel, o ansawdd uchel, a all gefnogi diogelwch bwyd yn y dyfodol, a gall hefyd ddarparu swyddi medrus iawn.
Gellir cefnogi ystod eang o weithgareddau, a byddwn yn annog y rhai sydd â diddordeb i wneud defnydd o'r cyllid – i chwilio am gyfleoedd ar gyfer twf, arallgyfeirio ac arloesi a defnyddio'r cynllun i adeiladu Cymru fwy llewyrchus, decach a gwyrddach.
Y dyfarniad grant uchaf fesul cais yw £100,000 a'r dyfarniad grant isaf yw £500.
Mae cymorth annibynnol am ddim ar gael i ymgeiswyr drwy brosiect Peilot Pysgodfeydd Cymru ar y cyd â Fishing Animateur, a ariennir gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Chymdeithas Pysgotwyr Cymru. I gael gafael ar y cymorth hwn, gall ymgeiswyr gysylltu â'r Fishing Animateur dros y ffôn: 01736 362782, drwy neges destun: 07864087119 neu e-bostio: info@fishinganimateur.co.uk.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein, lle gellir dod o hyd i'r prosesau ymgeisio a hawlio.
Manylion y cynllun Cylch ariannu cyffredinol Rhif 2 (Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru): canllawiau | LLYW.CYMRU