Mae prentisiaethau'n helpu i sicrhau gweithlu gwyrdd y dyfodol.
Cartrefi Melin yn denu prentisiaid â thechnoleg werdd arloesol
Mae Cartrefi Melin yn landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n darparu mwy na 4,500 o gartrefi fforddiadwy ar draws De-ddwyrain Cymru. Mae Candleston Limited, is-gwmni Cartrefi Melin, hefyd yn adeiladu cartrefi i'w gwerthu ac mae’r elw yn cael ei fuddsoddi yn ôl i dai fforddiadwy.
Wedi ymrwymo i weithredu dros y blaned, mae Cartrefi Melin wedi mynd ati i ddatgarboneiddio ei gartrefi.
Dywed Adrian Huckin, Cyfarwyddwr Gweithredol Arloesedd, Diwylliant a Gwella:
"Rydym wedi gosod targed dyheadol i ni ein hunain o ddod yn sero net erbyn 2030. Mae hynny’n golygu datgarboneiddio ein 4,000 o gartrefi, sy’n dasg enfawr, ond rydym yn treialu technolegau newydd drwy’r amser ac mae’n amser cyffrous iawn i fod yn gweithio ym maes adeiladu."
Gan weithio tuag at ddod â gwresogi tanwydd ffosil i ben yn raddol, mae Cartrefi Melin yn treialu technoleg ar hyn o bryd sydd ar flaen y gad, gan gynnwys NexGen, papur wal isgoch sy'n darparu gwres hynod o effeithlon ar gost isel.
Adrian dywed:
"Mae'r penawdau am gostau byw wedi datgelu rhai o'r problemau rydym yn eu hwynebu o ran ynni. Ac i ni, fel landlord cymdeithasol, nid yn unig yw'n bwysig helpu’r blaned ond mae hefyd angen i ni greu cartrefi sy’n fforddiadwy.
"Rydym wedi bod yn treialu NexGen mewn rhai o'm cartrefi gwag ac rydym yn mynd i’w brofi’n fuan gyda rhai o'm preswylwyr.
"Rydym yn archwilio technolegau newydd eraill hefyd, megis paent inswleiddio a hefyd hydrogen – rydym yn gobeithio y gallwn ddefnyddio'r pibellau nwy presennol ond rydym yn y camau cynnar iawn o'u datblygu.
"Does dim rhaid dweud, rydym yn awyddus i edrych ar ynni adnewyddadwy, wrth gwrs, solar, gwynt a llanw, ac, wrth i gyfleoedd godi am gyllid, rydym yn gosod paneli solar ar ein heiddo."
Mae Cartrefi Melin hefyd yn gwneud ei ran drwy ehangu ei fflyd o gerbydau trydan. Mae'r swyddfeydd yn cael eu pweru gan yr haul ac mae'r tîm wrth law i gynghori preswylwyr fel y gallant arbed ynni yn eu cartrefi.
Mae'r datblygiadau o ran lleihau allyriadau yn cael effaith ganlyniadol gadarnhaol ar sgiliau, hyfforddiant a recriwtio.
Mae Cartrefi Melin ar flaen y gad o ran datblygu sgiliau, ar ôl ymuno â Chyngor Sir Fynwy i sefydlu cynllun prentisiaeth sy'n seiliedig ar adeiladu o'r enw Y Prentis yn 2012.
Ariennir Y Prentis gan Lywodraeth Cymru a Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) ac mae'n cyflogi prentisiaid ar draws ystod o grefftau adeiladu.
Ers ei sefydlu, mae'r cynllun wedi helpu i hyfforddi mwy na 500 o brentisiaid.
Yn gynyddol, mae’r ffocws ar hybu sgiliau gweithlu gwyrdd i ddiwallu anghenion a heriau esblygol y diwydiant adeiladu heddiw.
Adrian dywed:
"Ein gweledigaeth yw darparu gweithwyr sy’n barod ar gyfer y safle ac sydd â’r hyder a’r profiad i ddiwallu anghenion y diwydiant adeiladu yn y dyfodol. Drwy ein rhaglenni peilot, lle rydym yn profi datblygiadau newydd, byddwn yn gweld sgiliau newydd a sgiliau sy'n dod i'r amlwg."
Yn ddiweddar, mae Y Prentis wedi sicrhau cyllid gan Gyngor Sir Fynwy i ddarparu deg prentisiaeth garlam mewn plymwaith a thrydan carbon isel.
"Ffocws y rhaglen brentisiaeth fydd datblygu talent wrth osod datrysiadau technolegol sydd wedi’u cynllunio i leihau carbon mewn adeiladau newydd yn ogystal â gwaith ôl-osod mewn adeiladau presennol i’w gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni.
"Wrth gwrs, dydyn ni ddim bob amser yn gwybod pa sgiliau fydd eu hangen yn y dyfodol gan fod pethau'n symud mor gyflym. Ond bydd llawer o’r sgiliau presennol yn sicr yn drosglwyddadwy. Mae gennym brinder sgiliau ar hyn o bryd ond credwn y bydd y ffocws ar leihau carbon ac ynni gwyrdd yn gwneud gyrfa ym maes adeiladu yn fwy deniadol. Mae’n bosibl bod llawer o waith i bobl yn y diwydiant ac mae’n gyfle da i bobl gael gyrfa lwyddiannus."
Mae symudiad hefyd o fewn y sector adeiladu tuag at grefftau amlsgiliau. Er y bydd angen bob amser am arbenigwyr, mae symudiad tuag at weithio'n fwy hyblyg ar draws crefftau.
"Rydym yn cymryd pobl ifanc o 16 oed ac nid ydynt bob amser yn gwybod beth maen nhw eisiau ei wneud ac mae hynny'n ddealladwy. Ond mae pethau'n dod yn fwy hyblyg, gallwch ennill profiad mewn sawl crefft a gwneud dewis gwybodus ynghylch yr hyn yr hoffech ei wneud. A gallwch fynd ymlaen i gael gyrfa hyblyg sy’n gallu bod yn wirioneddol ddeniadol."
Mae Jamie Masterton yn saer coed, ar ôl cymhwyso trwy raglen Y Prentis y llynedd:
"Mae popeth yn newid ac yn anelu at fynd yn wyrddach. Rydym yn cael hyfforddiant rheolaidd ar ddeunyddiau a mesurau newydd a all helpu cartrefi i fod yn fwy effeithlon o ran ynni."
Adrian dywed:
"Mae'r dyddiau pan mai'r unig opsiwn canfyddedig i fod yn llwyddiannus yw mynd i'r brifysgol wedi hen fynd. Heddiw, gallwch chi ennill arian wrth ddysgu sgiliau newydd gan weithwyr proffesiynol y diwydiant. Nid prifysgol yw’r llwybr cywir i bawb bob amser ac mae prentisiaethau’n galluogi pobl ifanc i wneud dewis gwybodus sy’n iawn iddyn nhw."
Eglura Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau yn Cymwysterau Cymru, y bydd dysgwyr yn barod wrth i Gymru symud tuag at sero net:
"Mae cyfres newydd o gymwysterau a wnaed ar gyfer Cymru mewn adeiladu a pheirianneg gwasanaethau adeiladu ar gael i ddysgwyr mewn addysg bellach ac fel rhan o brentisiaeth. Gyda'r cymwysterau newydd cyffrous hyn, bydd dysgwyr yn dod i ddeall y technolegau a thechnegau newydd sy'n cael eu defnyddio yn y sector amgylchedd adeiledig i fynd i'r afael â newid hinsawdd a lleihau allyriadau carbon. Bydd y cymwysterau newydd hefyd yn datblygu eu sgiliau crefft er mwyn diogelu eu galluoedd at y dyfodol."
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am Y Prentis, y cynllun prentisiaeth a rennir yn seiliedig ar adeiladu sy’n gweithredu ar draws De-ddwyrain Cymru, ewch i wefen Y Prentis neu ffoniwch 0800 9753 147.
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am recriwtio prentis, ewch i wefen prentisiaethau dewis doeth neu ffoniwch 03000 603 000.
Gallwch ein 'hoffi' ar Facebook a’n dilyn ar Twitter drwy glicio ar y dolenni.