Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn ddiweddariad i SFWIN 03/2020 ac yn rhoi gwybodaeth ynghylch y dystiolaeth y gellir ei derbyn gan fyfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol (SpLD) i ddangos eu bod yn gymwys i gael Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA).

Ers gosod cyfyngiadau Covid-19 ym mis Mawrth 2020, mae wedi bod yn anos i fyfyrwyr gael mynediad at asesiadau diagnostig wyneb yn wyneb ar gyfer SpLD. Ar y pryd, cynhyrchodd y Pwyllgor Safonau Asesu Anawsterau Dysgu Penodol (SASC) ganllawiau a ddaeth i’r casgliad na ellid cynnal asesiad diagnostig llawn o bell, ond ei bod yn bosibl i aseswyr gyflwyno gwerthusiad proffesiynol interim o angen, ar sail cyfweliad diagnostig a sgrinio o bell.

Er y byddai Llywodraeth Cymru angen i asesiad diagnostig llawn ar gyfer SpLD gael ei gyflwyno fel tystiolaeth o gymhwystra ar gyfer DSA fel arfer, nid oeddem am weld oedi yng ngallu myfyrwyr i gael mynediad at y cymorth a oedd angen arnynt drwy DSA. Felly, penderfynwyd y byddai ceiswyr DSA nad oeddent eisoes wedi cael asesiad diagnostig llawn ar gyfer SpLD, dros dro, yn gallu cyflwyno gwerthusiad o angen, sydd wedi’i gynnal yn unol â chanllawiau SASC, ac y byddai’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn derbyn hyn fel tystiolaeth o gymhwystra am DSA. 

Roedd y polisi dros dro hwn yn rhedeg tan 31 Awst 2020 i gychwyn, ac yna fe’i estynnwyd tan 31 Rhagfyr 2020 ac eto tan 31 Mawrth 2021. 

Bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu’r polisi eto, ar sail canllawiau newydd a gynhyrchwyd gan SASC a sylwadau eraill a ddaeth i law o’r the sector. Daeth SASC i’r casgliad, yn benodol, bod modd cynnal asesiadau diagnostig llawn o bell nawr ar gyfer SpLD. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ei bod bellach yn rhesymol unwaith eto i’w gwneud yn ofynnol cyflwyno asesiad diagnostig llawn ar gyfer SpLD, fel tystiolaeth o gymhwystra am DSA, ac na fydd gwerthusiad o angen yn cael ei dderbyn o hyn ymlaen. 

Golyga hyn: 

  • Y bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, ar unwaith, yn derbyn asesiad diagnostig llawn ar gyfer SpLD fel tystiolaeth o gymhwystra am DSA, gyda’r asesiad hwnnw wedi ei gynnal naill ai wyneb yn wyneb, neu o bell (neu gyfuniad o’r ddau). Dylai’r asesiadau diagnostig hyn, fel arfer, ddilyn y fformat a roddir gan SASC ar gyfer dibenion DSA. 
  • Y bydd cyfnod pontio, lle bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn derbyn gwerthusiad o angen a gynhaliwyd hyd at 30 Mehefin 2021 (gan gynnwys y dyddiad hwnnw). Fel o’r blaen, ni fydd disgwyl i fyfyrwyr sy’n gymwys am DSA ar sail gwerthusiad o angen gyflwyno asesiad diagnostig llawn yn nes ymlaen i gadarnhau eu cymhwystra, oni bai bod myfyriwr yn gwneud cais newydd am DSA (er enghraifft, os ydynt, ar hyn o bryd, yn astudio cwrs gradd, ac yna yn gwneud cais am DSA ar gyfer cwrs ôl-radd yn nes ymlaen). Rhaid i holl asesiadau o angen gynnwys geiriad y ‘datganiad penodol’ sy’n cael ei awgrymu yng nghanllawiau SASC er mwyn iddynt fod yn dderbyniol.