Neidio i'r prif gynnwy

Gall Lwfans Tai Lleol helpu gyda chostau’r rhent a delir fel budd-dal i denantiaid sy’n rhentu gan landlordiaid preifat.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nid yw Lwfansau Tai Lleol wedi'u datganoli ac maent yn gyfrifoldeb yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r budd-dal a delir i chi yn ddibynnol ar y Lwfans Tai Lleol a osodir gan Swyddogion Rhenti Cymru.

Sut yr ydym yn cyfrifo’r Lwfans Tai Lleol 

Mae cyfradd y Lwfans Tai Lleol yn dibynnu ar y rhent a delir gan denantiaid preifat yn yr un ardal â’r un rydych chi’n byw ynddi pan ydych yn hawlio budd-dal tai. Gelwir hyn yn ‘Ardaloedd Marchnad Rhenti Eang’ (AMRE).

Mae lefel y gyfradd Lwfans Tai Lleol yn ddibynnol ar y rhent a delir gan bobl yn yr un ardal a nifer yr ystafelloedd gwely sydd yn eu heiddo.

Y gyfradd Lwfans Tai Lleol yn eich ardal

Gallwch edrych ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol sy’n berthnasol i chi fesul ardal. (Saesneg yn unig)

Hefyd, gallwch edrych ar nifer yr ystafeloedd gwely y gallwch eu cael, (Saesneg yn unig) ar sail nifer y bobl ar yr aelwyd.

Os yw eich rhent yn uwch na’r gyfradd Lwfans Tai Lleol

Os yw'r rhent ar gyfer yr eiddo rydych yn ei rentu yn uwch na chyfradd y Lwfans Tai Lleol, bydd disgwyl i chi dalu'r gwahaniaeth. Efallai y bydd modd cael cymorth ariannol ychwanegol tuag at eich rhent drwy'r cynllun Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai. Mae’r Taliadau yn darparu cymorth ariannol i helpu gyda chostau rhent neu dai i'r rhai sydd ar fudd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai a gellir eu hawlio drwy eich swyddfa budd-dal tai leol. Gallwch gael cyngor ar hawlio’r Taliadau drwy Advicelink Cymru (0808 250 5700) a Shelter Cymru (08000 495 495).