Neidio i'r prif gynnwy

Asesu Anghenion

1. Os yw myfyriwr yn gwneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl a’i fod yn gymwys tra ei fod ar leoliad tramor, bydd yn cael ei wahodd i ymgymryd ag asesiad o’i anghenion, fel arfer. Gall hyn ddigwydd o bell, os oes angen, tra bo’r myfyriwr dramor.

Cyfarpar

2. Byddem yn disgwyl i fyfyriwr sy’n mynd ar leoliad tramor fynd â’r cyfarpar cyfrifiadurol y mae eisoes wedi’i gael o dan y Lwfans gydag ef i’w ddefnyddio os oes angen. Dylai myfyrwyr gadarnhau cyn iddynt fynd bod unrhyw bolisi yswiriant sydd ganddynt ar gyfer cyfarpar a gafwyd o dan y Lwfans yn ddilys os yw’r cyfarpar yn cael ei gymryd dramor.

3. Os oes gan fyfyriwr unrhyw broblemau â’i gyfarpar cyfrifiadurol y mae wedi’i gael o dan y Lwfans pan fydd dramor (er enghraifft, cyfarpar yn torri, yn cael ei ddwyn ac ati), dylai gysylltu â chyflenwr ei gyfarpar yn y ffordd arferol.

4. Pan fo myfyriwr wedi cael cyfarpar o dan y Lwfans ac nad oes modd i’r myfyriwr gludo’r cyfarpar dramor yn rhesymol (er enghraifft, cadeiriau arbennig), ac y bydd angen y cyfarpar arno ar gyfer ei leoliad tramor, dylai’r myfyriwr yn gyntaf bennu a all y sefydliad neu’r cyflogwr tramor ddarparu’r cyfarpar. Pan na fo hyn yn bosibl, dylai’r myfyriwr gysylltu â’r sawl sy’n asesu ei anghenion er mwyn pennu’r dull mwyaf costeffeithiol o gael y cyfarpar hwn yn y lleoliad tramor (er enghraifft, cludo’r cyfarpar yno ac oddi yno drwy wasanaeth cludo neu brynu’r cyfarpar yn lleol). Yna, gall y sawl sy’n asesu anghenion y myfyriwr wneud argymhelliad i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn y ffordd arferol, gan ddarparu dyfynbris ar gyfer y dull a argymhellir a nodi pam mai hwnnw yw’r dull mwyaf costeffeithiol. Dylai myfyrwyr gofio nad yw’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn gallu gwneud taliadau i fanylion banc o’r tu allan i’r DU, felly, os yw’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn cymeradwyo argymhelliad i brynu cyfarpar yn lleol, bydd rhaid i’r myfyriwr brynu’r cyfarpar a hawlio’r gost yn ôl wedyn gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr drwy ddarparu’r dderbynneb.

5. Os yw’r myfyriwr angen darn o gyfarpar ar gyfer ei leoliad tramor a fyddai wedi’i ddarparu fel addasiad rhesymol gan Ddarparwr Addysg Uwch y myfyriwr yn y DU, ni fydd hyn yn dod o dan gwmpas y Lwfans. Dylai’r myfyriwr siarad â’i Ddarparwr Addysg Uwch a’i sefydliad neu gyflogwr tramor er mwyn cytuno ar drefniant.

Meddalwedd gynorthwyol

6. Os yw’r myfyriwr yn credu bod angen meddalwedd gynorthwyol ychwanegol arno oherwydd natur ei astudiaeth neu ei waith yn y lleoliad tramor (er enghraifft, ychwanegyn iaith dramor), dylai siarad â’r sawl sy’n asesu ei anghenion. Gall yr asesydd wneud argymhelliad i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedyn yn y ffordd arferol.

Cymorth anfeddygol

7. Os yw’r myfyriwr yn cael cymorth anfeddygol a ariennir o dan y Lwfans yn y DU, a bod modd i’r cymorth hwn gael ei ddarparu o bell tra bo’r myfyriwr dramor (er enghraifft, cymorth â sgiliau astudio neu gymorth mentora), bydd y Lwfans yn parhau i ariannu’r cymorth hwn tra bo’r myfyriwr dramor. Ni fydd angen cymeradwyaeth ychwanegol (oni bai fod angen newid cyflenwr, er enghraifft, oherwydd gwahaniaethau amser, wedyn bydd y broses arferol yn gymwys). Dylid cyflwyno anfonebau gan y cyflenwr cymorth anfeddygol i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn y ffordd arferol.

8. Os yw’r myfyriwr yn cael cymorth anfeddygol wyneb yn wyneb a ariennir o dan y Lwfans, ac na ellir darparu’r cymorth hwn dramor (er enghraifft, dehongli Iaith Arwyddion Prydain), dylai’r myfyriwr yn gyntaf gysylltu â’i sefydliad neu ei gyflogwr tramor i bennu pa gymorth cyfatebol y gellir ei ddarparu yn ystod ei leoliad a (phan fo angen) i nodi cyflenwr addas. Dylai’r myfyriwr gysylltu â’r sawl sy’n asesu ei anghenion wedyn, a bydd yr asesydd yn gallu gwneud argymhelliad i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr a rhoi dyfynbris am y gwaith. Byddem yn disgwyl i’r dyfynbris fod yn debyg i’r costau gwreiddiol. Dylai’r sawl sy’n asesu anghenion y myfyriwr geisio argymell gweithwyr cymorth yn unol â pholisi cyfredol y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar gyfer y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, pan na fo hyn yn bosibl, yna bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried a oes modd gwneud eithriad. Dylai’r sawl sy’n asesu anghenion y myfyriwr gynnwys manylion cymwysterau’r gweithiwr cymorth yn yr argymhelliad i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. 

9. Os oes angen math o gymorth ar fyfyriwr ar ei leoliad tramor a fyddai wedi’i ddarparu fel addasiad rhesymol gan Ddarparwr Addysg Uwch y myfyriwr yn y DU, ni fydd y cymorth hwn yn dod o dan gwmpas y Lwfans. Dylai’r myfyriwr siarad â’i Ddarparwr Addysg Uwch a’i sefydliad neu ei gyflogwr tramor i gytuno ar drefniant.

10. Mae’n wir o hyd mai dim ond y cymorth sydd ei angen ar y myfyriwr er mwyn iddo allu ymgymryd â’i gwrs o ganlyniad i’w anabledd y gall y Lwfans ei ariannu. Os yw myfyriwr angen cymorth ychwanegol o ddydd i ddydd tra ei fod yn byw dramor, ni fydd y cymorth hwnnw’n dod o dan gwmpas y Lwfans. 

Teithio

11. Os yw’r myfyriwr yn gymwys ar gyfer costau ychwanegol cysylltiedig â’i anabledd ar gyfer teithio i’w sefydliad ac adref, sydd i’w talu gan y Lwfans, dylai’r myfyriwr siarad â’r sawl sy’n asesu ei anghenion fel y gellir gwneud argymhelliad i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i ariannu costau tramor cyfatebol o dan y Lwfans os oes angen. Dylai myfyrwyr gofio nad yw’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn gallu gwneud taliadau i fanylion banc o’r tu allan i’r DU, felly byddai rhaid i’r myfyriwr dalu am unrhyw drefniadau teithio tramor a gaiff eu cymeradwyo, gan wneud cais am ad-daliad gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr drwy’r broses arferol o ddarparu derbynebau.

12. Pan fo myfyriwr angen ysgwyddo costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’i anabledd wrth deithio o’r DU i wlad y lleoliad, ac nad yw’r rhain wedi’u talu drwy fath arall o gyllid (er enghraifft, grantiau’r Cynllun Turing), dylai ofyn i’r sawl sy’n asesu ei anghenion i wneud argymhelliad i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i’r costau hyn gael eu talu o dan y Lwfans. Dylai hyn gael ei wneud cyn i’r myfyriwr deithio. Ni chynghorir myfyrwyr i ymrwymo i unrhyw wariant cyn i argymhelliad gael ei gymeradwyo.

Llety

13. Pan fo myfyriwr angen ysgwyddo costau llety ychwanegol tra ei fod ar leoliad tramor, a hynny dim ond oherwydd ei anabledd, gellir ariannu’r costau hyn o dan y Lwfans. Dylai myfyriwr ofyn i’r sawl sy’n asesu ei anghenion i wneud argymhelliad i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.