Neidio i'r prif gynnwy
Ffotograff o Lowri Jones

A hithau’n wreiddiol o Gwm Rhymni yn Sir Caerffili, cafodd Lowri ei haddysg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni cyn graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda BA ac o Brifysgol Caerdydd gydag MA.

Dros y 22 mlynedd diwethaf, mae Lowri wedi gweithio fel Prif Swyddog Menter Iaith Sir Caerffili. Mae hi wedi arwain datblygiad Menter Caerffili a'i gwasanaethau, sydd bellach yn cyflogi dros 70 aelod o staff ac yn darparu amrywiaeth fawr o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar draws cymunedau. Rhwng 2018 a 2021, roedd Lowri yn Gadeirydd Mentrau Iaith Cymru, sef y rhwydwaith Mentrau Iaith ledled Cymru, gan gefnogi datblygu prosiectau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sy'n cynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel gymunedol.

Yn ddiweddar mae Lowri wedi dod yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, sy'n cynrychioli'r rhwydwaith o sefydliadau ar draws Cymru sy'n cefnogi defnyddio'r Gymraeg. Mae’n danbaid dros gefnogi cymunedau i ddatblygu cyfleoedd newydd ac arloesol i ddefnyddio'r Gymraeg yn yr ardal lle cafodd ei magu, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae Lowri yn eiriolwr cryf dros y sector gwirfoddol a'r rôl allweddol sydd ganddi i'w chwarae yn natblygiad ein cymunedau. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda'r sectorau gwirfoddol a chyhoeddus yn Sir Caerffili i ddatblygu cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc ac mae’n teimlo'n gryf mai cydweithio, ar draws sectorau, sy’n cynnig y cyfle gorau i barhau i ddatblygu gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru. A hithau'n fam i bedwar o feibion, mae'n ymwneud â llawer o grwpiau chwaraeon lleol a sefydliadau gwirfoddol eraill.