Mae logos newydd ar gyfer bwyd a diod sydd â statws Enw Bwyd Gwarchodedig o dan Gynllun yr UE yn cael eu datgelu heddiw.
Ar ddiwedd y cyfnod pontio, bydd pob cynnyrch o’r DU sy’n cael ei warchod o dan y Cynllun ar hyn o bryd yn cael ei warchod yn awtomatig o dan statws Dynodiad Daearyddol newydd ar gyfer y DU.
Ar hyn o bryd mae gan Gymru 16 cynnyrch bwyd a diod gwarchodedig, o Gaws Traddodiadol Caerffili, Halen Môn, Cig Oen Cymreig, i’r ychwanegiad diweddaraf, sef Eirin Sir Ddinbych.
Mae cynhyrchion gwarchodedig yn elwa ar broffil uchel ac mae cwsmeriaid ledled y byd yn adnabod eu nodweddion arbennig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda DEFRA, cynhyrchwyr â Dynodiad Daearyddol a chwsmeriaid i ddatblygu’r logos newydd, a byddant yn dangos natur unigryw a gwarchodedig y cynhyrchion hyn i gwsmeriaid. Bydd yn darparu hyder bod y cynnyrch gwarchodedig yn gysylltiedig â’r ardal o dan sylw, wrth ddiogelu cynhyrchwyr rhag cynhyrchion ffug.
Wrth groesawu’r cynllun newydd, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
“Rydyn ni’n falch iawn o’n sector bwyd a diod yng Nghymru, sydd wedi ennill enw da ledled y byd. Ar hyn o bryd mae gan Gymru 16 cynnyrch bwyd a diod gwarchodedig, a bydd pob un ohonynt yn cael ei adnabod yn awtomatig o dan y cynllun Dynodiad Daearyddol newydd ar gyfer y DU, a fydd yn dod i rym ar ddiwedd y cyfnod pontio.
“Bydd y logos newydd sy’n cael eu datgelu heddiw yn sicrhau bod ein cynhyrchion gwarchodedig yn parhau i gael eu cydnabod am fod yn ddilys, yn unigryw ac o ansawdd uchel.”
Mae tri logo Dynodiad Daearyddol ar gyfer y DU, sy’n nodi pob math o Ddynodiad Daearyddol:
- Enw tarddiad gwarchodedig (PDO);
- Dynodiad daearyddol gwarchodedig (PGI)
- Gwarant arbenigedd traddodiadol (TSG)
Bydd gan gynhyrchwyr o Brydain sydd wedi eu cofrestru i gynhyrchu bwyd, diod a chynhyrchion amaethyddol â statws Dynodiad Daearyddol tan 1 Ionawr 2024 i newid eu deunyddiau pecynnu i ddangos y logos newydd ar gyfer y DU.
Bydd deddfwriaeth sy’n cael ei gosod yn Senedd y DU heddiw yn galluogi gweinyddu’r cynlluniau Dynodiad Daearyddol newydd, sicrhau bod cynhyrchion presennol yn parhau i gael eu gwarchod, rhoi’r logos newydd ar waith a symleiddio’r broses ymgeisio.