Mae Syr Gary Hickinbottom wedi cael ei dyngu i mewn fel Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru mewn seremoni yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.
Mae’n olynu Syr Wyn Williams a fu’n Llywydd ers 2017, pan sefydlwyd y rôl.
Mae Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru yn llywyddu dros 7 o dribiwnlysoedd datganoledig. Mae’r tribiwnlysoedd hyn yn ymdrin â meysydd megis iechyd meddwl, amaethyddiaeth a’r Gymraeg.
Mae’n ymgymryd â’r rôl wrth i dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru gael eu diwygio. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Papur Gwyn yn ystod y misoedd nesaf a fydd yn gosod y seilwaith ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol i sefydlu un system dribiwnlysoedd unedig i Gymru. Y nod yw gwella cysondeb yn y system. Daw hyn yn dilyn argymhellion gan y Comisiwn annibynnol ar Gyfiawnder yng Nghymru a Chomisiwn y Gyfraith.
Mae Syr Gary Hickinbottom yn gyfreithiwr a fu’n ymarfer ym maes cyfraith fasnachol a chyfraith gyhoeddus tan 2000, pan gafodd ei wneud yn farnwr llawn amser. Cafodd ei benodi i gyfres o benodiadau barnwrol yn systemau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd cyn cael ei wneud yn Farnwr yn yr Uchel Lys ac yna’n Farnwr yn y Llys Apêl. Bu’n arweinydd barnwrol ar y rhaglen ddiwygio tribiwnlysoedd o dan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007.
Dywedodd Syr Gary Hickinbottom, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru:
“Rwy’n falch o gael fy mhenodi’n Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru; mae’n anrhydedd. Mae ein tribiwnlysoedd yn chwarae rôl hanfodol o ran sicrhau cyfiawnder hygyrch i bobl Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at arwain ein tribiwnlysoedd ar yr adeg dyngedfennol hon, ac yn arbennig at yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau yn sgil y cynlluniau i ddiwygio’r system dribiwnlysoedd yng Nghymru.”
Dywedodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru:
“Mae hwn yn gyfnod allweddol ar gyfer tribiwnlysoedd yng Nghymru wrth inni greu system symlach a mwy cyson. Rwy’n gwybod y bydd arweinyddiaeth ac arbenigedd Syr Gary Hickinbottom yn hanfodol yn y gwaith parhaus o gryfhau tribiwnlysoedd datganoledig.
“Rwyf hefyd am ddiolch i Syr Wyn Williams am yr holl waith y mae wedi’i wneud wrth ysgogi cynnydd. Mae’n gadael y rôl gyda thribiwnlysoedd Cymru ar sail lawer cryfach nag yr oedden nhw pan ddechreuodd.”