Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi penodiad Llywydd ac Is-lywydd newydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae Ashok Ahir wedi cael ei benodi’n Llywydd newydd. Mae Mr Ahir wedi bod yn Llywydd Dros Dro y Llyfrgell Genedlaethol ers Medi 2021.
Mae Andrew Evans wedi cael ei benodi’n Is-lywydd newydd. Mae Mr Evans yn ymgynghorydd sy'n arbenigo mewn codi arian a datblygu busnesau ar gyfer cwmnïau newydd, elusennau a chwmnïau dielw, yn enwedig yn y sector diwylliannol.
Mae Llywydd y Llyfrgell yn atebol i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Llywodraeth Cymru am berfformiad y Llyfrgell ac am gyflawni blaenoriaethau strategol.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:
“Rwy'n falch iawn bod Ashok wedi'i benodi i'r rôl uchel ei phroffil, strategol a dylanwadol hon yn y sector diwylliannol yng Nghymru. Bydd ganddo rôl hanfodol wrth sicrhau bod y Llyfrgell yn parhau i gyflawni canfyddiadau'r Adolygiad wedi’i Deilwra a gweithredu cynllun strategol pum mlynedd y Llyfrgell. Bydd yn llysgennad effeithiol dros y Llyfrgell gan ychwanegu at ei brofiad o fod yn Llywydd dros dro.
“Mae hefyd yn bleser mawr penodi Andrew yn Is-lywydd. Bydd yn eiriolwr brwd dros y Llyfrgell a bydd yn dod â sgiliau a dealltwriaeth newydd i'r Bwrdd. Bydd ei arbenigedd mewn codi arian yn ychwanegu gwerth mawr at waith y Llyfrgell.”
Dywedodd Ashok Ahir:
“Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru raglen waith uchelgeisiol sydd â'r nod o gyflawni amcanion strategaeth pum mlynedd newydd. Rwy'n edrych ymlaen at arwain grŵp rhagorol o ymddiriedolwyr ar adeg sy’n cynnig llu o gyfleoedd. Yn ogystal â bod yn gartref i gof y genedl, mae gan y Llyfrgell hefyd rôl bwysig i'w chwarae wrth i ni adolygu, ail-ddychmygu a dathlu amrywiaeth y profiad Cymreig.”
Dywedodd Andrew Evans:
“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael y cyfle hwn i wasanaethu fel Is-lywydd un o sefydliadau diwylliannol mawr Cymru. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda staff ymroddedig y Llyfrgell wrth i ni geisio gofalu am gasgliad digyffelyb y Llyfrgell – un o drysorau mawr treftadaeth a diwylliant Cymru. Mae'r blynyddoedd nesaf yn cynnig cyfleoedd gwych i'r Llyfrgell gynyddu nifer ac amrywiaeth yr ymwelwyr a'r darllenwyr ac mae bod yn rhan o'r daith honno’n destun cryn gyffro imi.”
Dywedodd Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Rwy’n hapus iawn i weld Ashok yn cael ei benodi i swydd y Llywydd, ac rwyf eisoes yn ddyledus iawn iddo am ei arweiniad a'i gefnogaeth fel Llywydd dros dro yn ystod y chwe mis diwethaf. Mae hwn yn benodiad gwych a bydd y Llyfrgell yn elwa'n fawr ar y penodiad hwn.
“Rydyn ni hefyd yn croesawu Andrew i swydd yr Is-lywydd ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef: rydyn ni’n gwybod ei fod yn berson galluog iawn sydd â sgiliau, cymwyseddau a phrofiadau eang mewn sawl maes, a bydd y Llyfrgell yn sicr yn elwa arnynt.”