Neidio i'r prif gynnwy

Mae Comisiwn Annibynnol ar gyfer y sector dŵr a'r dull o'i reoleiddio wedi'i lansio gan y llywodraeth heddiw (dydd Mercher 23 Hydref), yn yr hyn y disgwylir fydd yr adolygiad mwyaf o'r diwydiant ers preifateiddio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Mae Llywodraethau'r DU a Chymru wedi cyflwyno deddfwriaeth bwysig gyda phwerau newydd i ddwyn cyhuddiadau troseddol yn erbyn swyddogion gweithredol dŵr a gwaharddiad ar daliadau bonws. 
  • Y cam nesaf wrth ddiwygio y diwydiant dŵr yw lansio Comisiwn Annibynnol pellgyrhaeddol i gryfhau rheoleiddio, hybu buddsoddiad a llywio diwygio pellach ar y sector dŵr. 
  • Penodwyd cyn Ddirprwy Lywodraethwr Banc Lloegr Syr Jon Cunliffe i gadeirio'r Comisiwn gan ganolbwyntio ar gyflymu'r gwaith o ddarparu seilwaith i lanhau afonydd, llynnoedd a moroedd Prydain. 

Y Comisiwn yw'r cam nesaf yn null hirdymor y Llywodraeth o sicrhau bod gennym fframwaith rheoleiddio digon cadarn a sefydlog i ddenu'r buddsoddiad i lanhau ein dyfrffyrdd, cyflymu'r gwaith o ddarparu seilwaith ac adfer hyder y cyhoedd yn y sector.

Mae'n dilyn Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol gyntaf y Llywodraeth yr wythnos ddiwethaf ble y siaradodd y Prif Weinidog am yr angen i reoleiddio ac i reoleiddwyr gefnogi twf a buddsoddiad yn y DU.  

Wedi'i lansio gan lywodraethau'r DU a Chymru, bydd y Comisiwn yn adrodd yn ôl y flwyddyn nesaf gydag argymhellion i'r Llywodraeth ar sut i fynd i'r afael â phroblemau systemig etifeddol yn y sector dŵr i adfer ein hafonydd, llynnoedd a'n moroedd i fod yn iach, cwrdd â heriau'r dyfodol a sbarduno twf economaidd. 

Bydd yr argymhellion hyn yn sail i ddeddfwriaeth bellach i ddenu buddsoddiad hirdymor a glanhau ein dyfroedd yn yr hirdymor - rhoi biliynau o bunnoedd yn yr economi, cyflymu y broses o ddarparu seilwaith i adeiladu tai a mynd i'r afael â phrinder dŵr o ystyried bod angen i'r wlad ddod o hyd i 5 biliwn litr ychwanegol o ddŵr y dydd erbyn 2050.  

Bydd cyn Ddirprwy Lywodraethwr Banc Lloegr, Jon Cunliffe, yn cadeirio'r Comisiwn. Gyda sawl degawd o brofiad economaidd a rheoleiddiol, mae ei benodiad yn dangos uchelgeisiau y Llywodraeth o ddifrif.  

Bydd y Comisiwn yn tynnu ar banel o arbenigwyr o bob rhan o'r sectorau rheoleiddiol, amgylcheddol, iechyd, peirianneg, cwsmeriaid, buddsoddwyr ac economaidd. Mae'n rhan o ailosod y sector dŵr gan y Llywodraeth drwy sefydlu partneriaeth newydd rhwng llywodraeth, cwmnïau dŵr, cwsmeriaid, buddsoddwyr, a phawb sy'n mwynhau ein dyfroedd ac yn gweithio i amddiffyn ein hamgylchedd.  

Wrth lansio'r adolygiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Steve Reed:         

Mae ein dyfrffyrdd yn llygredig ac mae angen trwsio ein system ddŵr ar frys.

Dyna pam rydym ni heddiw wedi lansio Comisiwn Dŵr i ddenu'r buddsoddiad sydd ei angen arnom i lanhau ein dyfrffyrdd ac ailadeiladu ein seilwaith dŵr sydd wedi torri.

Bydd canfyddiadau'r Comisiwn yn helpu i lunio deddfwriaeth newydd i ddiwygio'r sector dŵr fel ei fod yn gwasanaethu buddiannau cwsmeriaid a'r amgylchedd yn iawn.

Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn Dŵr, Syr Jon Cunliffe:       

Mae'n anrhydedd i mi gael fy mhenodi'n Gadeirydd Comisiwn Dŵr newydd y llywodraeth. Mae'n hanfodol ein bod yn darparu system well i ddenu buddsoddiad sefydlog a chyflymu'r gwaith o adeiladu seilwaith dŵr.   

Wedi gweithio dros nifer o flynyddoedd yn y sector cyhoeddus, yn yr amgylchedd, trafnidiaeth a'r Trysorlys, a Banc Lloegr, rwyf wedi gweld sut y gall rheoleiddio cwmnïau preifat fod yn sylfaenol i gymell perfformiad ac arloesedd, sicrhau gwytnwch a chyflawni amcanion polisi cyhoeddus.

Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag arbenigwyr o bob rhan o'r sector dŵr, o'r amgylchedd a grwpiau cwsmeriaid a buddsoddwyr, i helpu i ddarparu sector dŵr sy'n gweithio'n llwyddiannus i gwsmeriaid, buddsoddwyr a'n hamgylchedd naturiol.

Ychwanegodd Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog gyda chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: 

Ni allai'r adolygiad hanfodol hwn ddod ar adeg sydd mwy tyngedfennol i'n hamgylchedd dŵr a'n diwydiant dŵr.   

Mae hyn yn dangos agwedd newydd ein dwy lywodraeth yn cydweithio ar fater sy'n effeithio ar bob un ohonom fel defnyddwyr, buddsoddwyr ac fel stiwardiaid y byd naturiol.   

Mae Llywodraeth Cymru a'r DU yn benderfynol o wella ansawdd dŵr a gwydnwch y sector dŵr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae gennym flaenoriaethau clir ar gyfer diwygio ac ymdeimlad a rennir o'r gwaith sydd ei angen ar draws cyfundrefnau polisi a rheoleiddiol y ddwy wlad i wneud i'r newid hwn ddigwydd.

Bydd cyfres o argymhellion yn cael eu cyflwyno i Ysgrifennydd Gwladol Defra, a'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y flwyddyn nesaf. Yna bydd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ymateb gyda'r cynigion y maent yn bwriadu eu datblygu.