Mae Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, wedi dweud y bydd Llywodraeth y DU yn ‘plannu annhegwch’ drwy fethu â darparu digon o gymorth i gartrefi incwm is yn ystod yr argyfwng costau byw.
Daw ei sylwadau yn dilyn datganiad ariannol Canghellor y Trysorlys a roddwyd yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynharach heddiw.
Dywedodd y Gweinidog fod y datganiad yn annheg ac nad oedd yn cynnig unrhyw gymorth ystyrlon, wedi’i dargedu, i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau.
Beirniadodd hefyd fethiant y Canghellor i ymrwymo i raglen fuddsoddi mewn ynni gwyrdd.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
"Mae'r cyhoeddiadau heddiw yn dangos bod Llywodraeth y DU yn symud i gyfeiriad sy’n peri pryder mawr, gyda blaenoriaethau cyfeiliornus yn arwain at ddatganiad sy’n cael effaith anghymesur ac a fydd yn plannu annhegwch ar draws y Deyrnas Unedig.
"Yn hytrach na chyflwyno cymorth ystyrlon, wedi'i dargedu, i’r rhai sydd angen help fwyaf, mae cyllid yn cael ei flaenoriaethu gan y Canghellor i dorri trethi i’r cyfoethog, darparu taliadau bonws diderfyn i fancwyr, a diogelu elw cwmnïau ynni mawr.
"Yn hytrach na chynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn unol â chwyddiant, mae gennym Ganghellor sy’n mynd ati, heb falio dim, i anwybyddu cyllidebau sydd o dan straen tra bo gwasanaethau cyhoeddus yn canfod nad yw eu harian yn mynd mor bell ag yr arferai.
"Nid cynllun twf cynhwysfawr a gafwyd. Cyfle wedi’i golli oedd hwn i fuddsoddi yn y dyfodol. Gallem fod wedi gweld rhaglen fuddsoddi feiddgar mewn ynni gwyrdd newydd a fyddai wedi mynd i'r afael â biliau sy’n cynyddu a gwneud mwy i ddiogelu ein ffynonellau ynni yn y tymor hir. Byddai hyn wedi helpu i atal y math hwn o argyfwng rhag digwydd eto.
"Yma yng Nghymru, rydym wedi darparu tua £400m i helpu pobl i dalu biliau hanfodol, gan gynnwys cymorth wedi'i dargedu’n benodol at y rheini sydd ar incwm is. Ond, yn nwylo Llywodraeth y DU y mae'r rhan fwyaf o ysgogiadau allweddol ar gyfer cymorth ac, yn syml, ni allwn fforddio cael mwy o'r un peth. Ni allwn fforddio cael Llywodraeth yn y DU nad yw’n deall nac yn malio am yr heriau didostur y mae pobl yn eu hwynebu.
"Cawsom addewid o ddatganiad a fyddai'n sicrhau y byddai cymorth yn cael ei ddarparu ar unwaith. Mae hwn ymhell o gyrraedd y nod."