Bron £700 000 ar gyfer adeiladu man glanio 24 awr newydd i hofrenyddion, a datblygiadau cysylltiedig, ar safle Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.
Erbyn hyn, mae wedi dod yn amlwg nad yw’r man glanio presennol yn addas i’w ddefnyddio yn y tywyllwch, ond bydd yr arian hwn yn ei gwneud yn bosibl i staff meddygol y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys hedfan at gleifion unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.
Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo yn bartneriaeth rhwng Elusen Ambiwlans Awyr Cymru a GIG Cymru. Ers mis Ebrill 2015, mae meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol wedi ymuno â hofrenyddion yr elusen yn y Canolbarth a’r De, er mwyn trin cleifion sy’n gorfod cael gofal brys os ydynt am gael siawns o oroesi.
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi cyfle i’r meddygon ymgynghorol ddechrau rhoi’r driniaeth angenrheidiol i’r claf yn y fan a’r lle cyn ei gludo’n uniongyrchol i’r gofal arbenigol priodol. Bydd hyn yn rhoi’r siawns orau posibl o oroesi i gleifion y mae eu bywydau yn y fantol.
Dywedodd Vaughan Gething:
“Bydd y cyllid cyfalaf sylweddol hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod cleifion difrifol wael, y mae eu bywydau’n dibynnu ar gael gofal brys, yn gallu cael y gofal hwnnw drwy’r gwasanaeth awyr, ddydd neu nos.
“Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i ddarparu’r gwasanaeth iechyd modern ac effeithiol y mae pobl Cymru yn ei haeddu.”
Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn disgwyl y bydd y man glanio newydd yn barod ym mis Mawrth 2017. Dywedodd Ruth Treharne, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformio Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf:
“Ry’n ni’n falch iawn bod ein cais am arian cyfalaf ar gyfer y man glanio newydd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl wedi cael ei gymeradwyo. Bydd y man glanio’n cael ei leoli wrth ymyl ein Canolfan Gofal Argyfwng, sydd ag adnoddau o’r radd flaenaf. Bydd hyn yn ein galluogi i dderbyn a thrin mwy o gleifion difrifol wael, a hynny 24 awr y dydd.”
Dywedodd Dr Dindi Gill, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Interim y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys:
“Rydyn ni wrth ein boddau o glywed am ddatblygu’r man glanio 24 awr newydd hwn i hofrenyddion, ac rydyn ni’n diolch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth barhaus. Gyda chymorth ein cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, bydd y cyfleuster hwn yn ymestyn ein gallu i ddarparu gofal critigol i gleifion cyn iddynt gyrraedd yr ysbyty ac i gludo cleifion pan fo amser mor dyngedfennol.
“Bydd datblygu safle glanio sydd wedi ei oleuo’n briodol, ar y cyd â’n partneriaid yn Elusen Ambiwlans Awyr Cymru, yn ein helpu i wireddu gweledigaeth strategol y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo wrth inni ddod yn wasanaeth 24/7.”