Neidio i'r prif gynnwy

Mae chwech aelod newydd wedi’u apwyntio i Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 

Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yw llais y celfyddydau yng Nghymru ac mae'n defnyddio arian cyhoeddus i greu cyfleoedd i bobl fwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.

Caiff CCC ei ariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru – ond mae hefyd yn gorff dosbarthu i'r Loteri Genedlaethol ac yn elusen gofrestredig - a’i nod yw annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau a sicrhau bod profiadau diwylliannol o’r radd flaenaf ar gael i bawb, waeth ble maent yn byw neu waeth beth yw eu cefndir.

Mae Aelodau'r Cyngor yn cyflawni rôl bwysig o ran cefnogi sector celfyddydau deinamig a chreadigol. Gyda'i gilydd maent yn gyfrifol am sicrhau buddsoddiad effeithiol a phriodol o gyllid Llywodraeth Cymru a chyllid y Loteri.

Mae aelodau'r Cyngor hefyd yn gyfrifol am:

  • pennu cyfeiriad strategol Cyngor y Celfyddydau
  • datblygu, gweithredu a monitro polisi celfyddydol
  • cymeradwyo’r Cynlluniau Corfforaethol a Gweithredol
  • pennu'r gyllideb flynyddol
  • pennu dyraniad blynyddol o grantiau i sefydliadau a ariennir gan refeniw
  • sicrhau bod Cyngor y Celfyddydau yn rheoli ei faterion yn effeithiol ac yn atebol

Bydd Ruth Fabby, Ceri Ll Davies, Keith Murrell, Elen ap Robert, Prue Thimbleby a Tafsila Khan yn ymgymryd â'u swyddi ar 1 Ebrill, gan olygu bod gan y Bwrdd 18 aelod.

Mae Keith Murrell yn gyfarwyddwr / cynhyrchydd creadigol profiadol, yn enwedig gyda Carnifal Butetown, ac mae ganddo brofiad helaeth yn y celfyddydau yng Nghymru ac wrth weithio gyda sefydliadau ar lawr gwlad a chymunedau ethnig amrywiol.

Mae gan Ruth Fabby MBE, DL, Cyfarwyddwr Celfyddydau Anabledd Cymru, brofiad sylweddol o eirioli a chyflawni newid ym maes anabledd a chelfyddydau ar gyfer pobl fyddar, ac mae ganddi hefyd ddealltwriaeth glir o'r heriau y mae sefydliadau celfyddydol yng Nghymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Mae gan Ceri Ll Davies brofiad sylweddol o addysg y celfyddydau, Dysgu Creadigol a'r defnydd o dechnoleg yn y celfyddydau, yn enwedig cerddoriaeth.  Mae ganddi hefyd ymrwymiad cryf i gynyddu mynediad i'r celfyddydau, yn ogystal â gwella lles drwy'r celfyddydau ac mae'n siarad Cymraeg yn rhugl.

Mae Elen ap Robert wedi gweithio ym maes y celfyddydau ers dros ddeng mlynedd ar hugain, fel cantores opera broffesiynol, therapydd cerddoriaeth, ac yn fwy diweddar fel Cyfarwyddwr Artistig cyntaf Pontio, Prifysgol Bangor rhwng 2012 a 2019. Mae ganddi brofiad sylweddol o lywodraethu a chyfathrebu. Mae hi bellach yn gweithio fel Ymgynghorydd Celfyddydau, ac mae wedi cynghori ac adrodd ar ddatblygiad gweithgarwch celfyddydau Cymraeg. Mae hi'n credu'n angerddol yng ngallu’r celfyddydau i drawsnewid ein bywydau i gyd.

Mae gan Prue Thimbleby, arbenigwr mewn adrodd straeon digidol, brofiad sylweddol o weithio ym maes y celfyddydau ac iechyd lle mae wedi sefydlu proffil rhyngwladol ar gyfer gweithgarwch yng Nghymru. Mae ganddi hefyd ddealltwriaeth drylwyr o'r agenda cydraddoldeb yn sgil ei phrofiad ym maes datblygu cymunedol.

Mae gan Tafsila Khan ddealltwriaeth glir o'r nod o geisio sicrhau tegwch i bob unigolyn ym maes y celfyddydau yng Nghymru, a hynny yn sgil ei phrofiadau ei hun ym maes y celfyddydau ac fel aelod o'r bwrdd. Mae ganddi arbenigedd eithriadol ym maes hyfforddiant ymwybyddiaeth o nam ar y golwg.

Dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Fel corff cyhoeddus, mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru awydd a chyfrifoldeb i sicrhau bod profiadau a chyfleoedd celfyddydol ar gael ar draws holl gymunedau amrywiol Cymru.  Dewiswyd aelodau newydd y Cyngor am eu bod yn cynnig gweledigaeth, profiad ymarferol, mewnwelediad proffesiynol a setiau sgiliau pwerus i'n helpu i wireddu'r uchelgais hwnnw. Rwy'n edrych ymlaen at ddilyn eu cyfraniadau a'r heriau y byddant yn eu cyflwyno i fwrdd y Cyngor."