Mae ystadegau a gyhoeddwyd heddiw'n dangos bod 38,269 o blant wedi elwa ar wasanaethau Dechrau'n Deg yng Nghymru yn ystod 2015-16.
Dechrau'n Deg yw rhaglen blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru, ar gyfer teuluoedd â phlant dan 4 oed. Mae’n targedu rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae'n darparu gofal plant rhan-amser o safon am ddim i blant 2-3 oed; gwasanaeth gwell gan Ymwelwyr Iechyd; mynediad i raglenni magu plant; a chymorth ym meysydd lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Yn 2014-15, cyrhaeddodd Llywodraeth Cymru ei nod i gyflwyno rhaglen Dechrau'n Deg i 36,000 o blant erbyn 2016 - flwyddyn yn gynnar. Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos bod mwy na 38,000 o blant wedi elwa ar y rhaglen yn 2015-16, gan ragori ar y nod o fwy na dwy fil.
Mae rhai o'r ystadegau allweddol eraill yn dangos y canlynol:
- Gweithiodd ymwelwyr iechyd Dechrau'n Deg gyda 25% o'r holl blant o dan 4 oed yn ystod 2015-16
- Yn ystod 2015-16, derbyniwyd 86 y cant o'r cynigion a wnaed o ofal plant mewn lleoliad Dechrau'n Deg
- Yn 2015, roedd 93 y cant o blant tair oed oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg wedi'u cofrestru mewn ysgol a gynhelir
- Yn ystod 2014-15, roedd 83 y cant o'r plant a oedd yn byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg wedi'u himiwneiddio'n llawn erbyn eu pen-blwydd yn 4 oed.
"Dros y ddegawd ddiwethaf, mae Dechrau'n Deg wedi rhoi cymorth sydd wir ei angen i deuluoedd sy'n byw yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Mae nifer y teuluoedd sy'n elwa ar y rhaglen wedi parhau i gynyddu.
"Gan mai eleni yw degfed pen-blwydd rhaglen Dechrau'n Deg, mae hi'n adeg briodol i dynnu sylw at ei lliaws lwyddiannau yn ogystal ag ystyried sut y gall barhau i weithio'n dda yn y dyfodol.
"Dwi wedi ymroi'n llwyr i wneud popeth o fewn fy ngallu i roi'r dechrau gorau posibl yn eu bywydau i blant Cymru . Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen allweddol i Lywodraeth Cymru o ran ymyriad cynnar. Mae'n helpu i wella cyfleoedd plant mewn bywyd ac yn lleihau'r angen i gymryd camau adferol yn nes ymlaen. Mae'n addas iawn ar gyfer mynd i'r afael â phrofiadau andwyol sy'n digwydd yn ystod plentyndod ac sy'n gallu effeithio ar bobl ifanc gydol eu bywydau.”