Heddiw bydd Llywodraeth Cymru'n pwysleisio ei hymrwymiad i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod yn ystod sawl digwyddiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod.
Bydd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, yn cynnau cannwyll coffa ac yn annerch gwasanaeth aml-ffydd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf i gefnogi'r rheini sy'n dioddef yn dawel bach o gam-drin domestig.
BAWSO sy'n trefnu'r gwasanaeth, ac mae'n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chymorth i Ferched Cymru, Llwybrau Newydd, Cymru Ddiogelach, Llamau, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac Unite.
Yn ddiweddarach, fel rhan o fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Cadw, bydd delweddau o'r Rhuban Gwyn yn cael eu taflunio ar Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, ac ar gestyll Caerffili, Caernarfon a Chonwy, er mwyn codi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod.
Mae ymgyrch "Gwneud Safiad" Llywodraeth Cymru hefyd ar waith i gyd-fynd â Diwrnod y Rhuban Gwyn. Mae'r ymgyrch yn gofyn i bobl wneud safiad yn erbyn cam-drin domestig, trais yn erbyn menywod a thrais rhywiol drwy roi lluniau o'u hunain braich ym mraich ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashtag #gwneudsafiadcymru i ddangos eu cefnogaeth.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
"Heddiw rydym yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod, a Diwrnod y Rhuban Gwyn. Yn 2014, daeth Llywodraeth Cymru yn sefydliad Rhuban Gwyn, ac mae wedi bod yn fraint i mi gael bod yn llysgennad am nifer o flynyddoedd.
"Mae'r siwrne wedi bod yn faith i gyrraedd lle ydym heddiw o ran mynd i'r afael â'r mater, ond ni allwn bwysleisio pa mor fawr yw'r dasg sydd dal o'n blaenau. Ar gyfartaledd, mae dau o fenywod yn marw bob wythnos ar draws y DU dan law eu partner neu eu cynbartner. Caiff hyn effaith fawr ar deulu, ffrindiau ac yn enwedig ar blant.
“Mae'n rhaid i ni barhau i beidio byth â ag esgusodi nac aros yn dawel am drais yn erbyn menywod. I gefnogi hyn, rydym wedi ail-lansio ein hymgyrch 'gwneud safiad' a hoffwn eich annog chi i gyd i ddenu cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgyrch a'i hyrwyddo.”