Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru’n mynd â chriw o allforwyr i Brasil er mwyn gweld pa gyfleoedd allforio sy’n bodoli yno a gwella eu dealltwriaeth o’r farchnad Ladin-Americanaidd.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y daith fasnach yn cychwyn ar 1 Gorffennaf ac yn dod i ben ar 6 Gorffennaf. Bydd yr allforwyr yn ymweld â Sao Paulo i ddechrau ac yna Rio de Janeiro.

Mae’r daith fasnach hon yn daith amlsector, ac mae 10 cwmni o Gymru sy’n gweithio mewn sectorau amrywiol yn cymryd rhan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio â’r Adran Fasnach Ryngwladol yn Brasil er mwyn sicrhau cymorth o fewn y farchnad i’r cwmnïau.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates:

“Gall ymweld â marchnad dramor fod yn gam hollbwysig yn y broses o ennill a chadw busnes allforio ac mae’r marchnadoedd a’r arddangosfeydd yr ydym yn eu cynnwys yn ein rhaglenni yn cael eu dewis er mwyn adlewyrchu’r datblygiadau rhyngwladol diweddaraf.”

“Mae Brasil yn cynnig cyfleoedd gwych i allforwyr Cymreig mewn sectorau amrywiol iawn, gan gynnwys y gwyddorau bywyd, ynni a gweithgynhyrchu.”

“Mae’n wych gweld busnesau Cymreig sy’n awyddus i ehangu drwy allforio. Maent yn dangos eu hawydd a’u penderfyniad i ehangu drwy ystyried cyfleoedd mewn marchnadoedd fel Brasil.”

“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu eu cynorthwyo â hyn ac rwy’n gobeithio y bydd y cwmnïau’n elwa i’r eithaf ar y cyfle hwn.”

Paul McDonnell yw Rheolwr-Gyfarwyddwr Ruth Lee Ltd, sef busnes teuluol sydd wedi hen ennill ei blwyf yng Ngogledd Cymru. Maent yn cyflogi tua 25 o bobl yn eu ffatri yng Nghorwen. Maent ar y blaen ym maes gweithgynhyrchu manikins hyfforddi a gaiff eu defnyddio gan sefydliadau chwilio ac achub ar draws y byd. Mae eu prif gwsmeriaid yn cynnwys y gwasanaethau bys, y fyddin, ysbytai, cartrefi gofal, yr awyrlu, Gwylwyr y Glannau ac Achubwyr Bywyd.

Dywedodd:

“Rydym eisoes yn allforio i’r rhan fwyaf o brif farchnadoedd y byd, ond nid ydym wedi llwyddo i greu cysylltiadau allforio yn Ne America hyd yma. Mae gennym fusnes bach yn Brasil ond credwn fod lle i ni dyfu llawer iawn mwy o fewn marchnad mor fawr â Brasil.

“Bydd y daith fasnach yn rhoi cyfle i ni ddeall yn well y farchnad sy’n bodoli, yr heriau y mae’n rhaid i ni eu gorchfygu a’r cyfleoedd sydd ar gael i ni. Trwy adeiladu busnes yn Brasil credwn y bydd modd drysau’n agor i ni ar draws y farchnad Ladin-Americanaidd.”