Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried a oes angen cynllun trwyddedu neu gofrestru ar gyfer rheoleiddio Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid yn well yng Nghymru.
Yn ogystal ag anifeiliaid gwyllt sy'n perfformio mewn syrcasau, mae Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid yn cynnwys arddangosfeydd heboga, anifeiliaid anwes egsotig sy'n cael eu dangos mewn ysgolion at ddibenion addysgol a cheirw Llychlyn adeg y Nadolig.
Ar hyn o bryd, nid oes trefniadau trwyddedu safonol na gofyn i archwilio Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid. Gallai cynllun trwyddedu neu gofrestru wella lles anifeiliaid mewn amgylchedd teithio a helpu busnesau sy'n cynnal Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid i wneud hynny mewn ffordd effeithiol a phriodol.
Mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i ddweud eu dweud mewn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar y pwnc. Penderfynwyd ei gynnal oherwydd y gred gan rai nad oes modd ateb anghenion lles rhai anifeiliaid wrth eu cadw mewn Arddangosfa Symudol.
Dyma'r tro cyntaf i bobl gael cyfle i dweud eu barn am y pwnc mewn ffordd all effeithio ar gamau nesa'r Llywodraeth.
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn i bobl am eu barn ar nifer o faterion sy'n ymwneud â rheoleiddio Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys a ddylid gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
"Rwy'n credu'n gryf y dylai anifeiliaid gael eu hamddiffyn rhan poen, anaf, ofn a gofid. Mae pryderon wedi'u mynegi am y ffordd y mae rhai anifeiliaid gwyllt yn cael eu defnyddio mewn Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid ac wrth iddyn nhw dyfu yn eu poblogrwydd, mae'n amlwg bod angen inni ystyried a ddylid eu rheoleiddio'n well, fel y rhan fwyaf o fusnesau eraill.
"Mae hwn yn bwnc sy'n ennyn ymateb mawr ac rwy'n gwybod bod yna deimladau cryf ynghylch yr hyn y dylem ei wneud. Mae'n bwysig felly'n bod yn clywed amrywiaeth o safbwyntiau, ynghyd â chyngor arbenigwyr, er mwyn inni allu penderfynu sut y dylai Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid gael eu rheoleiddio yn y dyfodol. Rwyf am annog pawb sydd â diddordeb i fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud eu dweud am y pwnc."
I weld y ddogfen ymgynghori, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.