Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu’r newyddion bod Fferm Wynt Gorllewin Fforest Brechfa yn Sir Gâr wedi cael caniatâd i gysylltu â’r grid.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud wythnos ddiwethaf gan Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Greg Clark, hynny ar ôl i’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd roi caniatâd ar gyfer y fferm wynt ym mis Mawrth 2013.
Mae’r caniatâd yn hwyluso’r ffordd i adeiladu fferm wynt Gorllewin Fforest Brechfa, fydd yn brosiect gwynt adnewyddadwy o 28 tyrbin, 57.4 MW. Daw â mwy na £450k y flwyddyn i’r gymuned a bydd angen rhyw 20 mis i’w adeiladu.
Meddai Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths:
“Rwy’n croesawu caniatâd Llywodraeth y DU i’r fferm wynt gysylltu â’r grid. Mae’n gam mawr ymlaen i’n helpu i daro’n targedau carbon a daw â buddiannau aruthrol i’r gadwyn gyflenwi leol a’r gymuned leol.
“Fodd bynnag, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud y dylai’r pwerau dros gysylltu â’r grid gael eu datganoli i Gymru, yn enwedig gan mai Cymru sudd bellach yn gyfrifol am ganiatáu ffermydd gwynt.
“Mae perygl i’r system fel ag greu diffyg cyfatebiaeth rhwng cydsyniadau ynni adnewyddadwy a seilwaith ynni adnewyddadwy. Byddai’r system dipyn yn haws pe bai pwerau cysylltu â’r grid wedi’u datganoli i Gymru.
Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
“Bydd adeiladu a rhedeg y fferm wynt hon yn dod â buddiannau i’r economi leol yn ogystal ag i’r amgylchedd. Dyma newyddion rhagorol i Sir Gâr ac i’r De Orllewin. Bydd Llywodraeth Cymru wrth law i helpu, annog a pharatoi cwmnïau lleol i gynnig am gontractau a ddaw i law.”