Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi cyhoeddi heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyfres o ymrwymiadau mewn perthynas â masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau.
Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol ac adeiladol a ddechreuwyd gan TUC Cymru, golyga'r ymrwymiadau y gall Cymru, teithwyr, a staff y rheilffyrdd fod yn hyderus wrth gamu at y dyfodol wrth i gynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a'r Gororau fynd rhagddynt.
Yn sgil y trafodaethau hynny, mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i'r canlynol:
• O ganlyniad i gynnydd sylweddol ym mhatrwm y gwasanaethau, ac yn unol â'r twf mewn galw yng Nghymru, disgwylir y bydd mwy o staff yn cael eu cyflogi gan y fasnachfraint, yn hytrach na llai. Mae newidiadau cyflym yn digwydd mewn technoleg rheilffordd a gallai hynny wella gwasanaethau ac effeithlonrwydd. Er hynny, mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod teithwyr yn gweld gwerth i wasanaeth personol a bydd eisiau i'r dechnoleg hon ategu gwaith y staff, yn hytrach na’u eu disodli.
• Mae Llywodraeth Cymru'n dymuno gwella diogelwch, y gwasanaethau a gynigir, a pha mor hawdd yw hi i bobl y mae arnynt angen cymorth ddefnyddio'r gwasanaeth. Mae'r Llywodraeth felly yn ymrwymo i gadw swyddog tocynnau (giard) ar holl drenau a gwasanaethau Cymru a'r Gororau, gan fod hynny’n hanfodol er diogelwch y teithwyr. Bydd hyn yn cynnwys gwasanaethau rheilffyrdd y Metro a bydd gofyn i'r ail berson hwn fod yn bresennol er mwyn i'r trenau redeg. Mae'r ymrwymiad hwn yn ymateb i sylwadau clir gan y cyhoedd yn ein hymgyngoriadau, lle dywedodd dros 90% o'r ymatebwyr fod cael ail aelod o staff naill ai'n eithaf pwysig neu'n hanfodol yn rhanbarth Cymru a'r Gororau. Nododd Age Cymru fod hyn yn 'hanfodol'. Mae Anabledd Cymru yn amcangyfrif bod mwy nag 20% o boblogaeth Cymru'n anabl.
• Bydd seilwaith rheilffyrdd i drenau masnachfraint Cymru a'r Gororau y tu allan i'r prif gymoedd yn parhau'n gyfrifoldeb i Network Rail.
• Yr eithriad i hyn fydd Prif Gledrau'r Cymoedd lle byddai'r cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru drwy Trafnidiaeth Cymru, ar yr amod bod Llywodraeth Cymru a Network Rail yn medru cytuno ar werthusiad o’r asedau.
• O ganlyniad, bydd seilwaith y rheilffyrdd yn aros dan berchnogaeth gyhoeddus a bydd y gweithwyr yr effeithir arnynt yn aros yn y sector cyhoeddus naill ai gyda Network Rail neu Trafnidiaeth Cymru. Mewn sefyllfa lle bydd gweithwyr yn symud at Trafnidiaeth Cymru, bydd eu pensiynau'n cael eu gwarchod ac ni fydd unrhyw newidiadau i'r amodau heb i'r undebau llafur gytuno arnynt.
• Bydd unrhyw gerbydau newydd yn cael eu cynnal a'u cadw gan weithwyr rheilffordd medrus, gyda'r nifer fwyaf bosib o staff yn cael eu cyflogi yng Nghymru.
• Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod yr undebau'n awyddus i sicrhau y bydd swyddi ac amodau staff glanhau ac arlwyo'n cael eu diogelu. Bydd Trafnidiaeth Cymru'n dechrau trafodaeth adeiladol gyda'r undebau i ystyried sut y gellid sicrhau hynny.
• Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo i weithio mewn ffordd adeiladol â'r undebau i drafod yr hyn maen nhw eisiau ei sicrhau o ran staff y swyddfeydd tocynnau a'r gorsafoedd.
• Bydd yn cael ei warantu na fydd y fasnachfraint yn arwain at unrhyw ddiswyddiadau gorfodol a bydd y warant hon yn berthnasol hefyd i isgontractwyr uniongyrchol.
• Bydd yr undebau llafur yn parhau i gael eu cydnabod a bydd y Llywodraeth hefyd yn gweithio i sicrhau bod hyn hefyd yn wir yng nghadwyn gyflenwi'r isgontractwyr.
• Bydd lle i gynrychiolydd yr undebau llafur ar Fwrdd Trafnidiaeth Cymru.
• Os bydd deddfwriaeth yn caniatáu ar ei gyfer yn y dyfodol, byddai Llywodraeth Cymru yn ffafrio gweld gwasanaethau trenau Cymru a'r Gororau yn cael eu perchnogi a'u gweithredu fel rhan o reilffordd integredig ar gyfer y DU gyfan a fyddai dan berchnogaeth gyhoeddus, gyda'r cyfrifoldeb a'r pwerau dros wasanaethau teithwyr a'r seilwaith yn cael eu datganoli mewn ffordd gynaliadwy a chynhwysfawr i Lywodraeth Cymru.
Bydd yr ymrwymiadau hyn yn sail i drafodaethau mwy manwl rhwng yr undebau llafur a swyddogion Trafnidiaeth Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae ein gweithwyr rheilffordd gweithgar yn rhan hanfodol o ddarparu gwasanaeth rheilffordd modern a diogel. Dyw e ond yn iawn felly eu bod yn ganolog i'n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Gwasanaethau newydd Cymru a'r Gororau a Metro De Cymru.
"Mae'n bleser felly ein bod wedi gallu cael trafodaethau mor gadarnhaol ac adeiladol gydag undebau llafur y rheilffyrdd; rhywbeth dw i wedi bod yn awyddus i'w sicrhau o'r dechrau'n deg.
"Mae'r ymrwymiadau hyn yn rhai blaengar a fydd yn arwain at well gwasanaeth i deithwyr a gwell rheilffordd i Gymru. Dw i'n edrych ymlaen at barhau â'r sgwrs gadarnhaol hon wrth inni ddatblygu’n cynlluniau."
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
"Dw i wrth fy modd ein bod wedi gallu gwneud cynnydd wrth gyhoeddi’r tendr hwn, a'n bod wedi gallu gwneud yr ymrwymiadau hyn i'r teithwyr, yr undebau rheilffyrdd, a'u haelodau.
"Ry'n ni eisiau i rwydwaith rheilffyrdd Cymru fod yn esiampl i eraill o sut gall llywodraeth weithio'n effeithiol mewn partneriaeth gymdeithasol gyda'r undebau llafur i ddarparu rheilffordd o'r radd flaenaf ar gyfer y bobl sy'n ei defnyddio ar gyfer y daith i'r gwaith, ar gyfer ein heconomi, ac ar gyfer ein cymunedau."
Ddoe, gwahoddodd Llywodraeth Cymru Abellio Rail Cymru, Trenau Arriva Cymru, KeolisAmey a MTR Corporation (Cymru) Ltd i gyflwyno tendrau terfynol ar gyfer Gwasanaeth Rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau a fydd yn dod i rym ym mis Hydref 2018.