Neidio i'r prif gynnwy

Yn Eisteddfod yr Urdd yn y Fflint eleni, cynhelir llu o atyniadau ar stondin Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mai 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y rhain yn cynnwys diddanwyr a chymeriadau poblogaidd sydd i’w gweld ar raglenni plant, cyfle i glywed straeon Roald Dahl a chyfle i gael eich diddanu gan Ed Holden, y ‘bît-bocsiwr’ a’r rapiwr o Gymru.

Bydd y cyflwynydd Martyn Geraint yn diddanu’r plant a’u teuluoedd ddydd Llun 30 Mai ar ei hyd. Yna, bydd cyflwynwyr a chymeriadau poblogaidd eraill sy’n ymddangos ar raglenni Cyw ar S4C yn galw heibio ddydd Gwener 3 Mehefin. Ddydd Iau, 2 Mehefin bydd Ed Holden yn rhoi gwersi ‘bît-bocsio’ i’r ymwelwyr ac o ddydd Llun i Ddydd Gwener bydd cymeriadau o lyfrau Roald Dahl yn ymweld â’r stondin i ddarllen stori. Ddydd Mawrth 31 Mai bydd sesiynau ymarfer corff hwyliog, a dydd Iau yr amgylchedd fydd y thema a chynhelir sesiynau blasu bwyd tebyg i’r ‘bushtucker trials’.

Bydd y gweithgareddau’n dechrau am 9:00 bob dydd, a bydd cyfle ichi wneud celf a chrefft drwy’r dydd. Lleolir y stondin ger y brif fynedfa gyferbyn â Chaffi Mistar Urdd. 

Rhaglen Gweithgareddau Stondin Llywodraeth Cymru


Bydd Gweithgareddau celf a chrefft pob dydd o 9yb tan 5yh


Dydd Llun

11:00 - 11:30 Martyn Geraint 

11:30 - 12:30 Sioe Roald Dahl 

13:00 - 13:30 Martyn Geraint 

14:15 - 14:45 Martyn Geraint


Dydd Mawrth

11:00 - 12:00 Sioe Roald Dahl

12:00 - 12:30 Heini

14.00 - 14.30 Heini

14:30 - 15:30 Sioe Roald Dahl

15:30 - 16:00 Heini


Dydd Mercher

10:00 - 16:00 Diwrnod Amgylchedd - Cwis, creu bathodynnau a coeden addewidion 

11:00 - 11:45 Bwyd y goedwig 

13:30 - 14:00 Cyflwynwyr Cyw 

14:00 - 14:30 Bwyd y goedwig 

15:00 -16:00 Sioe Roald Dahl

Dydd Iau

10:30 - 11:30 Gweithdy Radio

11:30 - 12:30 Ed Holden 

12:30 - 14:00 Gweithdy Radio 

14:00 - 15:00 Sioe Roald Dahl 

15:00 -16:00 Ed Holden

Dydd Gwener

11:30 - 12:00 Cymeriadau S4C

12:00 - 12:30 Cyflwynwyr Cyw

12:30 - 13:30 Sioe Roald Dahl

13:30 - 14:00 Gweithdy Radio

14:00 - 15:00 Cyflwyniad i Gemtiwb

15:00 - 16:30 Gweithdy Radio

Dydd Sadwrn

10:00 - 12.30 Archwiliad Iechyd 

11:30 - 12:00 Cymeriadau S4C 

13:30 - 16:30 Archwiliad Iechyd