Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw na fydd prisiau tocynnau trên yng Nghymru sy’n cael eu rheoleiddio yn codi uwchlaw’r gyfradd chwyddiant hyd o leiaf Hydref 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Golyga hyn na fydd Trenau Arriva Cymru’n gallu codi prisiau tocynnau trên a reoleiddir uwchlaw’r terfyn o 1.9% - sy’n 0% yn uwch na chyfradd chwyddiant y Mynegai Prisiau Manwerthu – o fis Ionawr 2017. 

Eglurodd Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates:

“Ar gyfer 2017 rydym wedi pennu mai’r cam mwyaf delfrydol yw gosod terfyn ar brisiau tocynnau trên - sef 0% uwchlaw’r gyfradd chwyddiant. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr trenau a hefyd yn ei gwneud hi’n haws i sicrhau bod teithio ar drenau’n ddewis deniadol a fforddiadwy. Bydd terfyn ar unrhyw gynnydd ym mhrisiau tocynnau trên o fis Ionawr 2018 yn ogystal hyd ddiwedd cyfnod y fasnachfraint bresennol ym mis Hydref 2018 - sef y gyfradd chwyddiant a dim ceiniog yn fwy.”