Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (7 Ionawr) cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, dasglu aml-randdeiliad newydd i helpu i gyflawni strategaeth newydd ar gyfer dyfodol Porthladd Caergybi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y tasglu yn cael ei arwain gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans. Bydd y grŵp yn gweithio gyda Gweinidogion dros Drafnidiaeth Iwerddon, Llywodraeth y DU ac unigolion allweddol eraill ym mhorthladdoedd a diwydiant fferi Cymru ac Iwerddon i sicrhau bod y porthladd yn diwallu anghenion y ddwy wlad yn y dyfodol.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cau'r porthladd dros dro yn dilyn difrod i'w seilwaith docio a achoswyd gan Storm Darragh. Mae Stena Ferries, sy'n gweithredu'r Porthladd, wedi nodi bod gwaith adfer ar hyn o bryd ar amserlen ailagor rhannol ar 16 Ionawr.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth:

"Roedd effeithiau posib cau'r ffordd dros gyfnod y Nadolig ar symud nwyddau a theithwyr yn sylweddol iawn, gyda nwyddau tymhorol sensitif i amser angen cyrraedd y farchnad a phobl yn teithio adref at eu teuluoedd ar gyfer y Nadolig. Buom yn gweithio'n ddiflino gyda Llywodraeth Iwerddon, Llywodraeth y DU, porthladdoedd Cymru, cwmnïau fferi ac eraill i sicrhau llwybrau amgen ar gyfer nwyddau a phobl i gyrraedd lle roedd angen iddynt fynd ac rwyf am ddiolch i bawb am eu hymdrechion.

"Rydym wedi cydnabod arwyddocâd strategol Caergybi erioed, trwy ein cefnogaeth i Borthladd Rhydd Ynys Môn a'n cefnogaeth i sicrhau y gellir cynnal morglawdd y porthladd fel bod modd defnyddio'r porthladd am ddegawdau lawer i ddod. Rwyf hefyd yn ddiolchgar am y sicrwydd diweddar gan Stena Ports eu bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddyfodol hirdymor Caergybi. Ond rwy'n credu bod yr amser bellach yn iawn i ni ail-werthuso'r hyn sydd ei angen ar Gaergybi gan ei holl randdeiliaid dros y tymor hwy, nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu.

"Rwyf am i'r tasglu rwy'n ei gyhoeddi heddiw ystyried gwytnwch cysylltedd môr rhwng Cymru ac Iwerddon yn fwy cyffredinol, fel y gall y cysylltiadau trafnidiaeth hanfodol hyn wrthsefyll yr heriau a ddisgwylir gennym yn well o ganlyniad i newidiadau sy'n cael eu gyrru gan yr hinsawdd ym mhatrymau tywydd garw a pheryglon a bygythiadau eraill. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd fel y gallwn sicrhau dyfodol llwyddiannus i Borthladd Caergybi."

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi manylion pellach am y tasglu hwn yn fuan ond mae'n disgwyl gwahodd cyfranogiad gan yr holl brif chwaraewyr ym mhorthladdoedd a diwydiant fferi Cymru ac Iwerddon, awdurdodau lleol, cynrychiolwyr busnes rhanbarthol, cyrff logisteg a chwmniau trafnidiaeth arwyneb.