Ar ddechrau Wythnos Ailgylchu 2019 mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi cyhoeddi cynigion uchelgeisiol ar gyfer gwella cyfraddau ailgylchu busnesau a'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae ymgynghoriad newydd sy'n cael ei lansio heddiw yn cynnwys cynigion ar gyfer rheoliadau newydd sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw safleoedd annomestig gadw'r deunyddiau y mae modd eu hailgylchu ar wahân i'w gwastraff gweddilliol, neu eu gwastraff nad oes modd ei hailgylchu.
Byddai'r cynigion yn ei gwneud hi'n ofynnol i gwmnïau neu awdurdodau lleol sy'n casglu gwastraff gasglu deunyddiau y mae modd eu hailgylchu ar wahân a hefyd eu cadw ar wahân. Byddant hefyd yn gwahardd busnesau rhag gwaredu gwastraff bwyd drwy'r garthffos.
Dywedodd Hannah Blythyn:
"Mae Cymru eisoes ar y blaen o fewn y DU o safbwynt ailgylchu ond hoffwn weld Cymru yn mynd gam ymhellach, gan ennill tatws gwlad orau'r byd am ailgylchu. Dangosodd mynegai Carbon Eunomia am Ailgylchu gan Awdurdodau Lleol mai Cymru yw'r wlad orau o fewn y DU, a hynny o gryn dipyn, o ran cyflawni'r arbediad carbon gorau y pen drwy ailgylchu gan awdurdodau lleol.
"Nid da lle gellir gwell, fodd bynnag. Rydym wedi pennu targedau uchelgeisiol ar gyfer ein hunain, sef ailgylchu 70% o'n gwastraff erbyn 2025, ac mae'n rhaid i bob un ohonom gyfrannu at hyn.
"Bydd y cynigion newydd ar gyfer rheoliadau sy'n cael eu cyhoeddi heddiw o dan Ran 4 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn helpu a chefnogi busnesau i gyflawni'r targed hwn. Rwy'n gobeithio y bydd pawb y bydd y rheoliadau hyn yr ydym yn cynnig eu cyflwyno yn effeithio arnynt yn cyfrannu at yr ymgynghoriad, gan fynegi eu barn.
"Bydd cyflawni ein targedau hefyd yn cynorthwyo Cymru i gyflawni economi gylchol, lle y bydd adnoddau'n cael eu defnyddio am gymaint â phosibl o amser a lle y bydd cynhyrchion a deunyddiau yn cael eu hadennill a'u hadfywio ar ddiwedd eu hoes.
"Bydd hyn yn sbarduno manteision cadarnhaol di-ri ar gyfer yr economi, swyddi a'r amgylchedd, o arbedion ariannol i fusnesau drwy osgoi'r dreth gwarediadau tirlenwi i greu swyddi o fewn y sector rheoli gwastraff. Trwy gydweithio rwy'n hyderus y gallwn sicrhau mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd am ailgylchu."