Y meysydd y mae'n ceisio eu gwella yw Arweinyddiaeth, Atebolrwydd, Adnoddau, Strwythurau, Llesiant Dysgwyr a Deilliannau.
Mae'r cynllun newydd hwn, Fframwaith Gweithredu ar gyfer Darpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS), yn benllanw dwy flynedd o waith caled gan Grwp Gorchwyl a Gorffen EOTAS ac yn nodi dechrau'r broses ddiwygio fwyaf erioed o Unedau Cyfeirio Disgyblion a'r ddarpariaeth EOTAS yng Nghymru.
Cafodd y Grwp Gorchwyl a Gorffen ei sefydlu ym mis Medi 2015 er mwyn datblygu atebion ymarferol i argymhellion nifer o adroddiadau a awgrymodd sut y gellid cryfhau'r ddarpariaeth EOTAS bresennol yng Nghymru. Cadeirydd y Grwp oedd Ann Keane, cyn-Brif Arolygydd Estyn. Roedd y grwp yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion, Unedau Cyfeirio Disgyblion, Estyn a Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.
Mae'r Fframwaith newydd yn gynllun hirdymor sy'n cynnwys 34 o gamau gweithredu ar draws chwe maes, er y bydd rhai o'r camau'n cael eu gweithredu yn y tymor byr/canolig.
Y meysydd y mae'n ceisio eu gwella yw Arweinyddiaeth, Atebolrwydd, Adnoddau, Strwythurau, Llesiant Dysgwyr a Deilliannau.
Dywedodd Kirsty Williams wrth lansio'r Fframwaith a diolch i bawb a oedd yn ymwneud ag ef:
"Rydym wedi ymrwymo i greu system addysg gynhwysol i bob dysgwr yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu cael y lefel orau o gefnogaeth ar gyfer eu hanghenion.
"Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r Grwp Gorchwyl a Gorffen am eu gwaith caled i ddatblygu'r cynllun hwn, ac rwy'n rhoi fy nghefnogaeth i'r Grwp Cyflawni EOTAS a fydd bellach yn mynd ati i'w roi ar waith. Mae'r camau gweithredu sydd yn y Fframwaith hwn yn adlewyrchu ymgysylltu eang â'r sector sydd wedi ac yn parhau i roi'r gefnogaeth orau i ddysgwyr sy'n defnyddio darpariaeth EOTAS.
"Rydym yn fwriadol wedi dewis dull gweithredu graddol ar gyfer y cynigion sydd yn y cynllun. Hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu mewn ffordd ystyriol ac amserol a hefyd er mwyn i'r Fframwaith allu ategu'r broses drawsnewid ar draws y sector addysg yn gyffredinol. Rwy'n credu'n gryf bod yn rhaid i'r ddarpariaeth EOTAS fod yn rhan annatod o'n continwwm cynhwysol o addysg; ni ddylai fod yn ychwanegiad.