Mae Ken Skates wedi cyhoeddi y bydd 5 trên ychwanegol yn dechrau cael eu defnyddio er mwyn cynyddu a gwella'r cerbydau sydd ar gael yng Nghymru.
Mae'r trenau class 319 flex bi-mode wedi'u cyllido gan Lywodraeth Cymru ac mae Trenau Arriva Cymru hefyd wedi cyfrannu £1 miliwn. Bydd y trenau newydd hyn yn cael eu hychwanegu at y cerbydau sydd ar gael ar hyn o bryd yn 2018.
Bydd cyflwyno'r cerbydau newydd hyn yn ei gwneud hi'n bosibl i waith cydymffurfio mewn perthynas â Phersonau â Lefel Symudedd Is gael ei wneud i'r stoc categori 150 a 158 a bydd yn creu opsiynau o ran cynyddu capasiti ar deithiau prysur. Bydd y trenau ychwanegol hefyd yn creu cyfleoedd i'r cwmni newydd a gaiff ei freinio gyflawni gwelliannau ar ddechrau cyfnod contract newydd gwasanaethau trên Cymru a'r Gororau.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates:
"Rwy wedi bod yn agored iawn ynghylch yr anhawster sydd ynghlwm wrth ychwanegu cerbydau o safon uchel at y stoc sydd ar gael yng Nghymru. Yn amlwg rwy'n hynod o falch ein bod wedi llwyddo i sicrhau'r trenau ychwanegol hyn drwy gydweithio â Threnau Arriva Cymru ac eraill.
"Mae'r cytundeb i sicrhau'r trenau hyn yn un rhan o nifer o gytundebau â chyrff y diwydiant trenau er mwyn sicrhau y bydd y rhan fwyaf o fflyd bresennol Cymru a'r Gororau yn cydymffurfio â rheoliadau ynghylch Personau â Lefel Symudedd Is erbyn 1 Ionawr 2020. Bydd y trenau ychwanegol ar gael i'r cwmni newydd a gaiff ei freinio eu defnyddio hyd 2021 man lleiaf."
"Rwy wedi pwysleisio o'r dechrau'n deg fod yn rhaid i'r rhyddfraint nesaf, sef un cyntaf Llywodraeth Cymru, roi'r cwsmeriaid yn gyntaf. Mae'r ffaith ein bod wedi gallu sicrhau'r trenau hyn yn destun cryn falchder i mi ac rwy'n gobeithio y byddant yn cyfrannu at wella gwasanaethau trenau Cymru dros y blynyddoedd nesaf."
Mae'r trenau'n cael eu prydlesu yn sgil buddsoddiad gwerth £1.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru ac £1 miliwn gan Drenau Arriva Cymru.
Dywedodd Simon Hughes, Cyfarwyddwr Fflyd Trenau Arriva Cymru;
"Bydd y trenau ychwanegol hyn yn hwb sylweddol i'n cwsmeriaid sydd wedi bod yn galw am gapasiti ychwanegol ers cryn amser. Pleser yw buddsoddi ar y cyd â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau'r cerbydau ychwanegol hyn o fewn cyfnod ein rhyddfraint bresennol.
"Mae'r cwsmeriaid sy'n defnyddio rhwydwaith y Cymoedd eisoes yn elwa ar welliannau i'n hamserlen a gyflwynwyd ym mis Mai 2017. Trwy wneud y defnydd gorau posibl o'n nifer cyfyngedig o drenau roedd modd i ni sicrhau 600 o seddau ychwanegol ar y trenau prysuraf i gymudwyr sy'n gwasanaethu Caerdydd yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y seilwaith gan ein partneriaid yn Network Rail.
"Rydym yn teimlo'n falch iawn ac yn gyffrous ynghylch croesawu'r trenau hyn i'n fflyd. Mae'r ffaith y bydd yn haws i bobl eu defnyddio, ac y byddant yn cyd-fynd â gwelliannau eraill i rai o'n fflyd bresennol, yn golygu y gallwn sicrhau bod rheilffyrdd Cymru yn opsiwn teithio cynyddol ymarferol i bawb."
Dyma'r ail ddarn o newyddion cyffrous ynghylch y diwydiant trenau yng Nghymru, gan y cyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwerth dros £30 miliwn o fuddsoddiad er mwyn creu 300 o swyddi ym maes gweithgynhyrchu trenau yn ffatri newydd CAF yng Nghasnewydd.