Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer pobl sy'n dod i gysylltiad â chyflawnwyr trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu gwaith bob dydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r 'Canllawiau Arfer Da' yn cynghori'r rheini nad oes ganddynt wybodaeth arbenigol - fel swyddogion tai, staff gofal iechyd a gweithwyr cymorth cyflogaeth - ar sut i adnabod, adrodd a chefnogi'r rheini sy'n dreisgar neu mewn perthynas dreisgar mewn ffordd ymarferol a diogel.

Lansiwyd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), neu VAWDASV, yn 2015 a chyhoeddwyd strategaeth genedlaethol yn fuan wedyn.

oedd y strategaeth yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu blaenoriaethu tra'n cydnabod bod cyflawnwyr hefyd angen cymorth effeithiol i fynd i'r afael ag ymddygiadau treisgar, gan wella'r canlyniadau i bawb dan sylw.

Y llynedd cyhoeddwyd safonau ar gyfer gwasanaethau arbenigol cyson i gyflawnwyr, ac mae'r canllawiau a gyhoeddwyd heddiw yn mynd gam ymhellach gan gydnabod y rolau helaeth yng ngwasanaethau cyhoeddus ehangach Cymru lle ceir cysylltiad rheolaidd â chyflawnwyr.

Gall gweithwyr hefyd fanteisio ar hyfforddiant penodol ar gyfer y rheini nad ydynt yn arbenigwyr mewn VAWDASV. Mae 'Gofyn a Gweithredu' yn helpu staff sy'n delio â'r cyhoedd i adnabod arwyddion cam-drin domestig a dysgu sut i drafod eu pryderon gyda dioddefwyr posibl. Mae 4,343 o bobl wedi'u hyfforddi ar draws Cymru hyd yn hyn.

Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:

"Mae'n drist iawn bod staff ein gwasanaethau cyhoeddus yn dod i gysylltiad â dioddefwyr a chyflawnwyr trais a cham-drin domestig bob dydd, boed hynny drwy'r cyhoedd, eu cydweithwyr neu yn eu teuluoedd neu eu grwpiau o ffrindiau. Ond mae'n hollbwysig ein bod yn rhoi'r offer a'r wybodaeth gywir iddynt er mwyn iddynt allu eu defnyddio pan fo'u hangen.

"Drwy ddefnyddio'r wybodaeth ymarferol a hygyrch yn y canllawiau hyn, gall gweithwyr y gwasanaethau cyhoeddus gyfeirio cyflawnwyr i'r gwasanaethau arbenigol priodol a helpu Cymru i fynd i'r afael â phob math o gam-drin domestig a thrais.

"Mae cyhoeddi'r canllawiau hyn yn pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyflawnwyr yng Nghymru yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt a bod eu dioddefwyr, goroeswyr, plant a theuluoedd yn cael eu hamddiffyn, gan wella bywydau pobl yng Nghymru.”

Os ydych wedi profi rheolaeth drwy orfodaeth neu unrhyw fath o drais, cam-drin domestig neu drais rhywiol, ffoniwch linell gymorth gyfrinachol Byw Heb Ofn am ddim ar 0808 8010 800 neu ewch i bywhebofn.llyw.cymru i anfon neges at gynghorydd 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.