Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn neilltuo dros £30 miliwn i awdurdodau lleol gyfer gwella mynediad at deithio llesol, creu llwybrau diogel a gwneud ffyrdd at gymunedau yng Nghymru'n fwy diogel.
Bydd prosiectau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau fel Llwybr Diogel Cymunedol Coety ym Mhen-y-bont yn derbyn cyfran o'r £5,028,595 i dalu am osod wyneb newydd ar balmentydd a'u lledu, mynedfa i gerddwyr i'r orsaf drenau a mannau croesi newydd ymhlith pethau eraill.
Mae £12.7 miliwn o’r Gronfa Teithio Llesol newydd wedi’i ddyrannu i gynlluniau teithio llesol uchelgeisiol a all drawsnewid arferion cerdded a beicio yn eu hardaloedd a bydd cyfran o £6.3 miliwn yn cael ei dyrannu i holl awdurdodau lleol ar gyfer cyflawni cynlluniau mân welliannau ar lwybrau teithio llesol, asesu ymarferoldeb a gwaith cychwynnol ar gynlluniau newydd uchelgeisiol ac ar gyfer hyrwyddo, monitro a gwerthuso cynlluniau. Caiff manylion y prosiectau penodol a fydd yn elwa ar y cyllid teithio llesol eu cyhoeddi’n fuan.
Bydd prosiectau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn derbyn cyfran o £5,028,595, gan gynnwys Llwybrau Diogel Cymuned Coety Uchaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr a fydd yn cyflawni nifer o welliannau gan gynnwys ehangu’r droetffordd, creu mynediad i gerddwyr at yr orsaf drenau a chreu mannau croesi newydd.
Caiff yr arian diogelwch ar y ffyrdd ei rannu rhwng prosiectau cyfalaf a refeniw. Bydd prosiectau fel y mesurau a'r triniaethau y gwelwyd eu hangen ar y cyd â'r heddlu i wneud yr A4080 rhwng Llanfairpwll ac Aberffraw yn Ynys Môn yn fwy diogel, a pharthau 20mya yng Nghastell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe, yn cael eu hariannu o'r £3,969,743 sydd wedi'i glustnodi ar gyfer prosiectau cyfalaf.
Y flaenoriaeth ar gyfer yr arian refeniw yw'r cynlluniau a'r hyfforddiant ar gyfer hyrwyddo dulliau teithio llesol. Bydd dros 80% o'r £1,858,355 o refeniw ar gyfer gwneud ffyrdd yn fwy diogel yn cael ei neilltuo ar gyfer mentrau o'r fath, gyda thros £650,000 yn cael ei wario ar wersi Safonau Beicio Cenedlaethol a thros £850,000 ar gyfer nifer o gynlluniau diogelu cerddwyr i annog pobl i deithio'n llesol trwy gerdded.
Cyn ei ymweliad ag Ysgol Gynradd Stryd Fawr y Barri, lle cafodd weld yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddysgu plant sut i feicio'n ddiogel, dywedodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters:
"Mae prosiectau fel gwersi beicio yn werthfawr os ydym am annog y genhedlaeth nesaf i weld teithio llesol fel y dewis naturiol ar gyfer teithiau lleol.
"Bydd yr arian sydd wedi'i roi i brosiectau cyfalaf yn gwella seilwaith, i wneud teithiau llesol yn fwy diogel i feicwyr, cerddwyr a gyrwyr fel ei gilydd."
“Er bod teithio llesol yn agwedd allweddol ar y cyfan rydym yn ceisio ei gyflawni drwy’n cyllid ar gyfer trafnidiaeth gwych yw gweld natur ac uchelgais y prosiectau penodol sydd wedi’u cyflwyno gan yr awdurdodau lleol eleni. Rwy’n edrych ymlaen at gyhoeddi rhagor o fanylion ynghylch y prosiectau hynny yn fuan.”
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd y Stryd Fawr, Ceri-Ann Clark:
"Mae gwersi beicio yn yr ysgol yn rhoi sgiliau bywyd amhrisiadwy i ddisgyblion, iddyn nhw gael bod yn fwy annibynnol a diogel ar y ffyrdd."