Mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, wedi ymweld â Chastell-nedd i weld sut y gall adfywio helpu canol trefi i ffynnu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Datganiad Sefyllfa ar Ganol Trefi, yn nodi'r heriau allweddol y mae canol trefi ledled Cymru yn eu hwynebu a chyfres o gamau gweithredu i geisio mynd i'r afael â nhw.
Ymwelodd y Gweinidog â'r ganolfan hamdden newydd yng Nghastell-nedd a agorodd yn gynharach eleni. Mae'r safle'n cynnwys llyfrgell a gofod manwerthu yn ogystal â phwll nofio, campfa ac ystafell iechyd. Mae'r datblygiad yn enghraifft o'r polisi 'Canol Tref yn Gyntaf' ar waith, gyda llyfrgell a chyfleusterau hamdden yn symud o gyrion y dref i safle mwy canolog, gan helpu i ddenu pobl i ganol y dref.
Cost y prosiect oedd tua £16 miliwn, gyda chyfraniad o £6.5 miliwn gan raglen adfywio Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Mae'r ganolfan hamdden yn agos i ddatblygiad tai yn Lôn Shufflebotham a swyddfeydd ar eu newydd gwedd yn Stryd y Gwynt, sydd hefyd wedi derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r prosiectau hyn yn dod â chartrefi, busnesau a gwasanaethau newydd i'r dref i gynyddu bywiogrwydd a nifer yr ymwelwyr, gan helpu i roi bywyd newydd i ganol trefi.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
Rydyn ni am i drefi ledled Cymru fod wrth wraidd cymunedau Cymru, yn fannau lle gall pobl gael mynediad at wasanaethau, siopau, gofod cymunedol a diwylliannol.
Mae adfywio canol ein trefi yn gymhleth ond ni fydd hyn ond yn digwydd os oes gennym ddealltwriaeth ar y cyd o'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu. Mae'r rhain yn cynnwys y cynnydd mewn datblygiadau y tu allan i drefi sy’n golygu bod ceir preifat yn hanfodol, y twf mewn siopa ar-lein, a’r ffaith nad yw rhai gwasanaethau hanfodol bellach wrth law.
Bwriad ein rhaglen Trawsnewid Trefi yw helpu i wrthdroi'r dirywiad yma, gyda £100 miliwn dros y tair blynedd nesaf i roi bywyd newydd i drefi ledled Cymru. Bydd y datganiad heddiw yn cyfrannu at yr ymdrechion hyn a byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid canol trefi i adfywio a thrawsnewid trefi ar hyd a lled Cymru.
Deillia’r datganiad sefyllfa o drafodaeth rhwng rhanddeiliaid y llywodraeth a phrif randdeiliaid canol tref, yn ogystal â chyhoeddi adroddiad Small Towns, Big Issues: adroddiad ymchwil annibynnol yr Economi Sylfaenol ac adroddiad Archwilio Cymru Adfywio Canol Trefi yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Karel Williams - Ysgol Fusnes Manceinion ac awdur yr adroddiad Small Towns, Big Issues:
Amlinellodd ein hadroddiad cychwynnol y materion y mae canol trefi yng Nghymru yn eu hwynebu a gosododd yr her i weithredu ystyrlon ddigwydd. Mae Datganiad Sefyllfa Llywodraeth Cymru ar Ganol Trefi yn ystyried hyn ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio a meddwl ar y cyd. Ar sail dealltwriaeth gyffredin o'r materion, mae'r Datganiad yn cynnig set gydlynol o gamau a fydd yn sbarduno newid. Rwy'n edrych ymlaen at weld y sefyllfa’n newid i drefi ledled Cymru wrth i'r camau gweithredu hyn sbarduno newid trawsnewidiol.
Mae'r camau a amlinellir yn y datganiad sefyllfa yn cwmpasu ystod o feysydd gan gynnwys lleoliadau gwasanaethau cyhoeddus, trafnidiaeth a defnydd ceir, buddsoddiad y sector cyhoeddus, polisi cynllunio, byw yng nghanol trefi a seilwaith gwyrdd. Mae'n pwysleisio y bydd angen parhau â'r dull cydweithredol o ddatblygu'r datganiad sefyllfa wrth fwrw ymlaen â'i gamau gweithredu.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Dirprwy Arweinydd CLlLC a Llefarydd ar yr Economi:
Rwy'n croesawu’r datganiad hwn. Dros y blynyddoedd diwethaf mae canol trefi wedi dioddef yn sgil y lleihad yn nifer yr ymwelwyr, sydd wedi effeithio ar fusnesau ac wedi arwain at gau siopau a llefydd gwag. Fodd bynnag, mae canol trefi yn parhau’n bwysig i'n hymdeimlad o le a hunaniaeth. Gallant fod yn ganolbwynt i rwydweithiau trafnidiaeth gynaliadwy. Ein her yw cefnogi gweithgareddau sy'n adfywio'r canolfannau hyn, drwy ddenu amrywiaeth o weithgareddau hamdden, diwylliannol, a chymunedol eraill a helpu i gynnal siopau manwerthu.
Mae'r datganiad yn galw ar bob rhan o Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd y gallant gyfrannu at yr ymdrech hon ac mae'r un peth yn wir i lywodraeth leol. Gall nifer o wasanaethau eraill gan gynghorau gyfrannu at ansawdd profiadau preswylwyr yng nghanol trefi. Gall cyfleoedd i leoli swyddfeydd y cyngor, swyddogaethau'r llywodraeth, a gweithgareddau eraill yn y sector cyhoeddus yng nghanol trefi hefyd helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr a chynhyrchu'r galw am fusnesau. Mae pob cyngor yn gweithio'n galed i adfywio canol eu trefi ac rwy’n siŵr y byddant yn gefnogol ac yn ymateb i'r her.
Dywedodd Jen Heal, Cynghorydd Dylunio, Comisiwn Dylunio Cymru:
Mae'r Comisiwn Dylunio yn cydnabod swyddogaeth bwysig canol trefi fel lleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, busnes, diwylliant, cymuned a llesiant.
Mae'r flaenoriaeth a'r ffocws a roddir i ganol trefi drwy'r camau a nodir yn y datganiad hwn yn dangos ymrwymiad parhaus ac yn tynnu sylw at y ffaith bod llwyddiant canol trefi yn rhan annatod o ystod o feysydd polisi ac yn gyffredin iddynt. Rydym yn cefnogi’r dull unedig hwn o greu lleoedd wrth gynllunio a dylunio canol trefi ac yn croesawu'r cyfle i ymwneud ymhellach â'r sector cyhoeddus a’r sector preifat wrth ei gyflwyno.