Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, yn pwyso ar bobl Cymru i siopa yn eu hardal a chefnogi busnesau bach dros gyfnod y Nadolig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd yn siarad i fynegi ei gefnogaeth i Sadwrn Busnesau Bach, ymgyrch trwy Brydain sy’n cael ei chynnal eleni ar ddydd Sadwrn, 3 Rhagfyr.  


Meddai Ken Skates: 


Busnesau Bach a Chanolig yw curiad calon economi Cymru, gan gyfrif am ryw 99% o holl fusnesau Cymru a chan gyflogi 60% o’r bobl sy’n gweithio yn y sector breifat. 


Mae digwyddiadau fel Sadwrn Busnesau Bach yn ddefnyddiol i’n hatgoffa bod siopa’n lleol yn helpu busnesau bach a chanolig ac yn sicrhau bod cyfran o’n harian yn mynd yn ôl yn syth i’n heconomi leol. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi BBaChau yng Nghymru a dyna’r rheswm pam ein bod yn buddsoddi £86m hyd at 2020 i sicrhau bod ein rhaglen Busnes Cymru yn gallu rhoi gwybodaeth, arweiniad a help i’n busnesau bach.  Mae Busnes Cymru’n derbyn nawdd yr Undeb Ewropeaidd.

Rydym yn brysur hefyd yn marchnata’r gwasanaeth fel bod busnesau bach hen a newydd yn gwybod am yr help sydd ar gael. 

Mae busnesau bach wedi ymateb yn frwd i’r gwasanaethau y mae Busnes Cymru’n eu cynnig, ond un ffordd rwydd y gallwn oll ddangos ein cefnogaeth i fusnesau bach yw trwy eu defnyddio, ac mae Sadwrn Busnesau Bach yn rhoi’r cyfle perffaith inni wneud hynny.”  


Mae Llywodraeth Cymru’n helpu busnesau bach hefyd â’i Chynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach. 


Esboniodd yr Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu 70,000 o fusnesau bach ar draws y wlad gyda’u hardrethi.


Meddai: 


Bydd ein Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach yn golygu arbedion o £100m i fusnesau bach rhag talu trethi lleol.


Mae 70% o’n busnesau bach yn cael help â’u hardrethi o dan y cynllun ac nid yw mwy na’u hanner yn talu unrhyw ardrethi o gwbl.  Rydym am wneud yn siŵr bod hyn yn parhau trwy estyn y cynllun am flwyddyn arall. 

Rydyn ni’n ymwybodol o effaith ailbrisiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio Annibynnol ar hawl rhai busnesau i gael help gyda’u hardrethi.  Dyna pam y byddwn ni’n rhoi rhagor o help i fwy na 7,000 o dalwyr ardrethi yng Nghymru flwyddyn nesaf trwy gynllun dros dro gwerth £10m a fydd ar gael o fis Ebrill 2017. 

Byddwn hefyd yn ystyried sut y gallwn wella’r Cynllun Rhyddhad dros y flwyddyn nesaf cyn cyflwyno cynllun parhaol newydd yn 2018.  Byddwn yn ymgynghori’n eang â busnesau bach i glywed eu barn ynghylch sut y gallwn eu helpu orau er mwyn inni allu cydweithio i sicrhau dyfodol llewyrchus i’n strydoedd siopa.