Neidio i'r prif gynnwy

Mae buddsoddiad sylweddol £23 miliwn mewn llinell gynhyrchu newydd yn ffatri Kimberly-Clark yn y Fflint wedi’i gwblhau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £160,000 o gyllid busnes at y buddsoddiad hwn, sy’n creu 35 o swyddi bras newydd. Roedd nifer o leoliadau posibl yn cael eu hystyried ar gyfer y prosiect hwn ond gwnaeth yr arian sicrhau mai Glannau Dyfrdwy gafodd ei ddewis. Mae’r swyddi newydd yn cynnwys arweinwyr prosesu, technegwyr cynnal a chadw a gweithredwyr medrus.

Gwnaeth Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith groesawu’r newyddion a’i ddisgrifio fel buddsoddiad arbennig.

Dywedodd: 

“Mae hwn yn fuddsoddiad sy’n strategol bwysig i ffatri Kimberly-Clark yng Nghymru. Bydd yn sicrhau bod y cyflogwr allweddol hwn yn sefydlu’i hun ymhellach yn yr economi ranbarthol.

“Hefyd, mae’n bleser gen i nodi fod Llywodraeth Cymru a Kimberly-Clark yn cydweithio mewn modd strategol newydd. Mae hynny’n cynnig swyddi uniongyrchol a hefyd yn cefnogi swyddi ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi.” 

Bydd y llinell gynhyrchu newydd yn cael ei lleoli mewn estyniad sy’n 2,642 m.sg. Mae’n cynnig y lle ychwanegol sydd ei angen er mwyn medru cipio marchnadoedd newydd ynghyd â gwireddu’r twf uchel a ragwelir mewn marchnadoedd sy’n tyfu.

Rhagwelir y bydd twf sylweddol yn rhanbarth y Dwyrain Canol ac yn Affrica dros y bum mlynedd nesaf. Hefyd, disgwylir i farchnadoedd sydd wedi’u datblygu yn Ewrop dyfu bron 5% hyd at 2020.

Dywedodd Graham Tongue, Rheolwr Safle Kimberly-Clark, yn Flint Mill:

“Rydym yn falch iawn bod ein cyfleuster newydd i gynhyrchu cadachau gwlyb Huggies wedi rhoi’r cyfle inni ddenu talent newydd i’r Fflint, gan ategu’n tîm profiadol a medrus iawn. Rwy’n hyderus y bydd modd inni sicrhau canlyniadau byd-eang drwy weithio mewn partneriaeth”.

Mae pencadlys Kimberly-Clark yn Irving, Texas, ac mae’n un o gwmnïau Fortune 500. Mae tua 43,000 o bobl yn gweithio i’r cwmni ledled y byd. Yn y DU, mae Kimberly-Clark yn cyflogi rhyw 1,600 o bobl ar dri safle corfforaethol a thri safle gweithgynhyrchu. Mae’n cynhyrchu brandiau sy’n gyfarwydd iawn ledled y byd megis Andrex, Kleenex a Huggies ynghyd â llawer o gynhyrchion proffesiynol eraill. 

Mae’r safle 96 erw yn y Fflint yn gartref i ddau o ffatrïoedd cynhyrchu Kimberly-Clark, gan gyflogi 209 o staff. Mae Flint Mill yn rhan o’r K-C Consumer Business ac ar ôl buddsoddi gwerth £40 miliwn yn 2003, mae’n canolbwyntio’n llwyr bellach ar gynhyrchu cadachau gwlyb Huggies.

Adeiladwyd Coleshill Mill, sy’n rhan o’r Kimberly-Clark Professional Business, ym 1991 ac mae’n cynhyrchu papur tŷ bach wedi’i blygu a’i rolio  ynghyd â chadachau sychu ar gyfer cwsmeriaid proffesiynol.