Heddiw bydd Gweinidog yr Economi yn agor digwyddiad sy'n anelu at sbarduno'r sector cyhoeddus i fynd ati i drosglwyddo i system drafnidiaeth carbon isel ac allyriadau isel yng Nghymru.
Dyma'r cyntaf o ddau ddigwyddiad "Cyfleoedd ym maes Trafnidiaeth Allyriadau Isel a Charbon Isel a Symudedd Lleol" a bydd yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Caiff yr ail ddigwyddiad ei gynnal yng Ngerddi Soffia yng Nghaerdydd ar ddiwedd mis Chwefror.
Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth, wrth agor y digwyddiad:
"Mae'r cynadleddau hyn yn bwysig gan eu bod yn canolbwyntio ar ein hymrwymiad i leihau ein hallyriadau carbon yng Nghymru.
"Mae Deddf yr Amgylchedd yn pennu llwybr clir tuag at Gymru carbon isel, a hynny o fewn cyd-destun rhwymedigaethau'r DU a rhwymedigaethau rhyngwladol, lle y caiff allyriadau eu lleihau 80% man lleiaf erbyn 2050.
"Mae datgarboneiddio yn agwedd sylweddol ar ein Contract Economaidd newydd, sy'n rhan o'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi sy'n gynllun blaengar iawn.
"Ei ddiben yw cefnogi'r gwaith o gyflawni Ffyniant i Bawb, sef ein strategaeth genedlaethol. Mae'r Cynllun yn pennu'r llwybr ar gyfer newid i economi carbon isel. Ceir ymrwymiad penodol i arwain o safbwynt datgarboneiddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth a gwella ansawdd aer y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
"Fel rhan o'n hymgynghoriad ar 'Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030" gwnaethom gynnwys gwahanol syniadau penodol ynghylch trafnidiaeth, gan gynnwys annog mwy o ddefnydd o gerbydau trydan drwy ehangu'r rhwydwaith gwefru a chynnig cymhellion o fewn dinasoedd.
"Gwnaethom hefyd ail-bwysleisio ein hymrwymiad i leihau ôl troed carbon tacsis a bysys i sero o fewn deng mlynedd, a hefyd gynnig syniadau ar gyfer cynyddu'r defnydd o feiciau a sicrhau gwell dealltwriaeth o'r cysylltiad rhwng terfynau cyflymder ac allyriadau.
"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu £2 filiwn ar gyfer sicrhau rhwydwaith o fannau gwefru cyflym i gerbydau trydan ar draws Cymru ac rydym yn trafod gwahanol flaenoriaethau ar gyfer cyflawni opsiynau cyflenwi gyda rhanddeiliaid amrywiol.
"Beth bynnag a wnawn, fodd bynnag, bydd pobl yn chwarae rhan gwbl allweddol yn y broses. Trwy gydweithio gallwn sicrhau atebion sy'n bwysig i Gymru a hefyd ystyried dylanwadau a'r hyn y byddant yn ei olygu o safbwynt perchenogaeth ceir yn y dyfodol a symudedd personol."