Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru wedi cael yr hawl i gyfrannu yn apêl Llywodraeth y DU ynghylch Erthygl 50 ‘Brexit’ i’r Goruchaf Lys.
Mae Llywodraeth y DU yn apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys nad oes gan Weinidogion y DU y pŵer i roi rhybudd Erthygl 50 i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd gan ddefnyddio Uchelfraint y Goron.
Ar 4 Tachwedd 2016, cyhoeddodd Cwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw AC ei fwriad i wneud cais am ganiatâd i gyfrannu yn yr apêl.
Dywedodd Mr. Antoniw:
“Rwy’n croesawu penderfyniad y Goruchaf Lys i ganiatáu Llywodraeth Cymru i gyfrannu yn yr apêl.
“Mae’r achos hwn yn codi materion o bwys sylweddol nid yn unig o ran y cysyniad o Sofraniaeth y Senedd ond hefyd mewn perthynas â threfniadau cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli.
“Dydy’r achos hwn yn ddim i’w wneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd neu beidio. Mae’r bobl wedi pleidleisio dros adael yr Undeb, felly bydd y Deyrnas Unedig yn gadael. Yr unig gwestiwn cyfreithiol dan sylw yw a oes modd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, fel mater o gyfraith gyfansoddiadol, ddefnyddio pwerau Uchelfreiniol i roi hysbysiad ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd.
“Yn y Goruchaf Lys, bydd Llywodraeth Cymru’n ceisio pwysleisio pwysigrwydd Sofraniaeth y Senedd a rheolaeth y gyfraith: egwyddorion craidd, sefydlog cyfraith gyfansoddiadol Prydain.”
Bydd y Goruchaf Lys yn gwrando ar yr apêl ym mis Rhagfyr 2016.