Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd diwydiant dur Cymru hwb heddiw pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi neilltuo bron £3m i gynnal dros 550 o swyddi yn y sector.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cadarnhaodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £2.8m i helpu i greu 90 o swyddi dur newydd yng Nghymru ac i ddiogelu 477 o swyddi. 

Dywedodd Ken Skates y byddai’r buddsoddiad yn Code Serve ym Mryn-mawr, Dyfed Steels yn Llanelli, Express Reinforcements yng Nghastell-nedd a Celsa Steel yng Nghaerdydd yn helpu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i ddiwydiant dur Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: 

“Mae dyfodol y diwydiant dur a busnesau dur yn hynod bwysig i weithgynhyrchu yng Nghymru. 

“Yn wir, y sector dur yw un o flaenoriaethau pennaf Llywodraeth Cymru ac mae’n bleser cael cyhoeddi ein bod yn helpu pedwar busnes sydd rhyngddynt yn buddsoddi £8.75m mewn cyfleusterau newydd, offer newydd, prosiectau ehangu a gwelliannau amgylcheddol yng Nghymru. 

“Rhyngon ni a nhw, bydd y buddsoddiadau’n creu 90 o swyddi newydd ac yn diogelu 477 o swyddi crefftus iawn yng Nghaerdydd a’r Cymoedd. 

“Mae croeso bob tro i swyddi newydd wrth gwrs.  Ond ar adeg pan fo’r sector yn wynebu amodau masnachu hynod anodd a chystadleuaeth lem o bob rhan o’r byd, mae diogelu swyddi hyd yn oed yn bwysicach nag erioed o safbwynt cynaliadwyedd y sector ac i dwf yr economi.” 

Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi mai Dyfed Steels yw’r cwmni annibynnol prosesu dur mwyaf yng Nghymru a de-orllewin Lloegr a’r mwyaf hefyd o ran ei stoc a’i fod yn buddsoddi rhagor na £4m mewn uned weithgynhyrchu newydd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo £750,000 i’w helpu â’i brosiect ehangu fydd yn creu 30 o swyddi newydd ac yn diogelu 170 o swyddi eraill yn Sir Gâr. 

Mae’r cwmni’n troi llawer o waith i ffwrdd bob blwyddyn oherwydd diffyg lle.  Maen nhw wedi gweld bod cyfle iddynt ehangu yn eu safle yn Llanelli yn hytrach nag yn un o’u safleoedd yn Lloegr. 

Yn y cyfamser, mae hanner cant o swyddi newydd yn cael eu creu yn Code Serve ym Mryn-mawr yn sgil cynllun ehangu a symud, gyda chymorth nawdd gan Lywodraeth Cymru. 

Mae Code Serve yn darparu gwasanaethau saernïo a weldio cod drwy’r wlad yn ogystal â gwaith dur ar gyfer prosiectau seilwaith o gwmpas y DU. 

Mae’r cwmni wedi tyfu’n rhy fawr i’w gartref presennol ar hen safle AIC Steel yng Nghasnewydd ac mae wedi symud i hen adeilad Tecweld yn Ystad Ddiwydiannol Noble Square ym Mryn-mawr. 

Mae’r buddsoddiad o £1m yn cynnwys prynu offer newydd ac i’w helpu yn hyn o beth, mae Cronfa Ad-daladwy Llywodraeth Cymru i Fusnesau Bach a Chanolig wedi neilltuo £400k iddo. 

Mae Express Reinforcements yng Nghastell-nedd yn gwmni sy’n arbenigo mewn gweithgynhyrchu a chyflenwi cynnyrch atgyfnerthu o ddur ar gyfer y sector adeiladu.  Mae wrthi’n buddsoddi £150,000 mewn peiriannau arbenigol a chaledwedd a meddalwedd technoleg i gynyddu ei gapasiti. 

Bydd y buddsoddiad yn creu ac yn diogelu 22 o swyddi ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £65,000 i’r cwmni i’w helpu â’r prosiect. 

Yn olaf, mae Llywodraeth Cymru’n neilltuo £1.6m ar gyfer cynnal gwelliannau amgylcheddol yn nau safle cynhyrchu dur mawr Celsa Manufacturing (UK) yng Nghaerdydd. 

Bydd y buddsoddiad yn diogelu hyd at 280 o swyddi ac yn helpu’r busnes i dyfu mewn ffordd gynaliadwy. 

Celsa Manufacturing (UK) yw’r cwmni cynhyrchu cynnyrch atgyfnerthu o ddur mwyaf yn y DU.  Mae 100% o’i gynnyrch yn cael ei wneud o sgrap wedi’i ailgylchu.  Ar ei ddau brif safle yng Nghaerdydd, mae’n cyflogi 600 o bobl ynghyd â 194 o gontractwyr amser llawn tra bod ei weithgareddau yng Nghymru yn cynnal rhyw 3000 o swyddi yn y gadwyn gyflenwi. 

Bydd y buddsoddiad yn helpu i ddiogelu dyfodol rhyw 280 o swyddi gan gynnwys cyflogedigion, gweithwyr contract a phersonél y gadwyn gyflenwi.