Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn cyfres deledu o’r radd flaenaf sef, Minotaur. Mad as Birds, y cwmni cynhyrchu uchelgeisiol o’r Gogledd,  sy’n gyfrifol am y gyfres.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma’r ail brosiect teledu i gael cefnogaeth gan Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau, Llywodraeth Cymru. 


Celyn Jones fydd awdur y gyfres, sef yr actor/awdur a oedd yn gyfrifol am Set Fire to the Stars. Bydd y gyfres hon yn un wreiddiol a thywyll a bydd yn adrodd hanes unigryw am ofn a gwaredigaeth dynol. Caiff ei lleoli yng Ngogledd Cymru ac yn Ffrainc ac mae pobl adnabyddus, dalentog eisoes wedi dangos diddordeb yn y ffilm. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: 

“Rydw i’n hynod falch bod y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau yn cefnogi talent o Gymru megis Mad as Birds ac y bydd ein cyllid yn sicrhau bod y rhan fwyaf o’r ffilmio yn digwydd yng Nghymru. 

“Mae cynyrchiadau teledu a ffilm yn rhoi gwaith i amrywiaeth eang o weithwyr llawrydd, cwmnïau yn y diwydiannau creadigol a busnesau lleol sy’n sicrhau manteision economaidd i’r rhanbarth.

“Mae’r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau wedi buddsoddi mewn nifer o ffilmiau uchel eu proffil llwyddiannus. Mae’r ffilmiau hynny wedi rhoi hwb i’r economi ac wedi bod o gymorth i godi proffil y diwydiannau creadigol yng Nghymru a’r arbenigedd sydd ar gael yma.”

Mae cwmni Mad as Birds wedi’i leoli yn Sealand, Sir y Fflint a chafodd ei sefydlu yn wreiddiol yn 2014 i gynhyrchu’r ffilm fywgraffiadol am Dylan Thomas sef Set Fire To The Stars. Yn y ffilm honno, mae  Celyn Jones yn chwarae rhan Dylan Thomas, ac mae Elijah Wood yn serennu ynddi hefyd. Enillodd y ffilm honno dair wobr yn seremoni BAFTA Cymru 2015. 

Bellach, mae’r cwmni cynhyrchu annibynnol wrthi’n datblygu torreth o brosiectau teledu a ffilm, ac mae sgriptiau a chyfarwyddwyr yn gysylltieidg â phob un.  

Dywedodd Sean Marley, Cyfarwyddwr cwmni Mad as Birds: 

“Mae Minotaur yn rhoi gwedd gyffrous ar genre troseddau iasoer ac mae meddwl creadigol Celyn Jones, sy’n awdur talentog newydd o Gymru, wedi creu astudiaeth deimladwy o gymeriad. Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau cyllid o’r bartneriaeth newydd hon a bod Llywodraeth Cymru hefyd yn credu bod potensial byd-eang i’r gyfres ddrama hon sydd wedi’i lleoli yng Nghymru.”

Dywedodd Paul Higgins, yr fUwch-gynhyrchydd fod gan y gyfres y potensial i fod yn fersiwn Cymru o’r True Detective.

Dywedodd Robert Norris, Uwch Is-lywydd Pinewood Pictures: 

“Rydym yn falch iawn bod arian o’r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau yn cael ei glustnodi ar gyfer y prosiect cyffrous hwn sydd wedi’i leoli yng Nghymru. Mae’n ddrama wreiddiol ac afaelgar a dyma’n union y math o beth rydym yn chwilio amdano.”

Mae’r prosiect yn gobeithio dechrau ar y cyfnod cyn-cynhyrchu yn gynnar yn 2017.