Ac yntau'n siarad yng Nghynhadledd Fferylliaeth Cymru mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi pecyn ariannu gwerth £100,000 ar gyfer hyfforddi fferyllwyr.
Wrth gyhoeddi'r cyllid ychwanegol, tanlinellodd y Gweinidog bwysigrwydd sicrhau bod gan y gweithlu fferylliaeth y sgiliau cywir i gyflawni Cymru Iachach, sef cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Bydd y cyllid newydd yn ariannu hyfforddiant sgiliau clinigol arbenigol i 50 o fferyllwyr ledled Cymru, a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC). Bydd yn canolbwyntio ar reoli mân anhwylderau, rhywbeth nad yw'n cael ei gynnwys yn draddodiadol mewn hyfforddiant cychwynnol ym maes fferylliaeth.
Gyda phwysau cynyddol ar wasanaethau gofal sylfaenol, mae gan fferyllwyr rôl fwyfwy pwysig mewn gofal iechyd cymunedol. Amcangyfrifir bod 5% o ymgynghoriadau ag adrannau argyfwng, a 13% o ymgynghoriadau ag ymarferydd cyffredinol, ar gyfer mân anhwylderau a allai fod wedi cael eu rheoli gan fferyllwyr.
O ganlyniad i'r hyfforddiant hwn, bydd gan fwy o bobl fynediad uniongyrchol i wasanaethau yn agosach at y cartref, ar amser sy'n gweddu iddynt - un o gonglfeini allweddol Cymru Iachach. Bydd hefyd yn rhyddhau amser ymarferwyr cyffredinol i reoli achosion mwy cymhleth i gleifion.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
“Rwy'n croesawu ymdrechion gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth yng Nghymru wrth weithio i sicrhau bod fferyllfeydd yn bodloni'r newid a welir yn anghenion gofal iechyd pobl Cymru. Mae potensial cynyddol i fferyllwyr gael eu gweld y tu hwnt i'w rôl draddodiadol o roi meddyginiaethau ar bresgripsiwn. Bydd pwyslais yr hyfforddiant hwn ar fân anhwylderau o fudd uniongyrchol i gleifion trwy ryddhau amser ymarferwyr cyffredinol. Bydd ein hymrwymiad, gyda chymorth cyllid sylweddol newydd eleni ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus, yn sicrhau bod gan Gymru weithlu cynaliadwy sydd wedi'i hyfforddi'n briodol ym maes fferylliaeth. Bydd hefyd yn cynnig gyrfa fwy amrywiol gyda buddion proffesiynol i fferyllwyr.”
Dywedodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru:
“Mae Llywodraeth Cymru a'r proffesiwn eisoes wedi cyflawni cryn dipyn trwy gydweithio. Mae'n bwysig inni barhau i ymateb i'r newid yn anghenion pobl Cymru a'n system gofal iechyd. Mae gweld y person iawn, ar yr adeg iawn, i'w helpu i aros yn iach, wrth wraidd hynny.”
Croesawodd y Gweinidog Iechyd hefyd adroddiad Pwyllgor Fferyllol Cymru ‘Pharmacy: Delivering a Healthier Wales’. Mae'r adroddiad yn nodi sut y gellid defnyddio sgiliau unigryw gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth yng Nghymru i wella llesiant ac atal salwch, gan alluogi pobl Cymru i fanteisio i'r eithaf ar eu meddyginiaethau. Ac yntau'n diolch i'r Pwyllgor am ei waith pwysig, dywedodd Mr Gething y byddai Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried y cynigion dros yr haf ac yn gweithio gyda'r proffesiwn wrth fwrw ymlaen â'r cynllun uchelgeisiol hwn.
Ym mis Ebrill cyhoeddodd Mr Gething swm ychwanegol o £3.6m yn 2020/21 i drawsnewid y ffordd y mae fferyllwyr yn cael eu hyfforddi yng Nghymru. Bydd yr arian, a fydd yn codi £4.9m yn ychwanegol erbyn 2023/24, bron yn dyblu nifer y lleoedd hyfforddiant o ryw 100 y flwyddyn yn awr i 200 erbyn Awst 2023. Roedd y cyhoeddiad yn cyd-fynd â lansio cam fferylliaeth ymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw sy'n anelu at hyrwyddo Cymru fel dewis o'r radd flaenaf i fferyllwyr.