Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates a'r Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi addo parhau â'u cefnogaeth i sector bwyd Cymru.
Mae'r ymweliad hwn â Peter's Foods ym Medwas yn digwydd union flwyddyn ers lansio'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi sy'n canolbwyntio ar ddatblygu economïau rhanbarthau Cymru a lledaenu cyfoeth a lles i bob rhan o Gymru.
Mae'n enwi bwyd fel un o'r pedwar sector sylfaen y mae Llywodraeth Cymru am weithio'n egnïol ynddyn nhw gyda busnesau i wella'u cynaliadwyedd, ansawdd a'u hargoelion tymor hir.
Y tri Sector Sylfaen arall yw Twristiaeth, Adwerthu a Gofal.
Dechreuodd Peter's Foods fel busnes teuluol yng nghanol y 1970au, yn gwerthu pasteiod a chynnyrch tebyg. Er bod y rheolwyr wedi newid dros y blynyddoedd, mae ei enw da am gynhyrchu pasteiod ac ati a selsig o fri cyn gryfed ag erioed. Mae'r cwmni'n cyflogi 700 o bobl.
Gan siarad cyn ei ymweliad â Peter's Foods, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Flwyddyn yn ôl, gyda balchder mawr, cefais lansio'r Cynllun Gweithredu newydd ar yr Economi sy'n cynnig gweledigaeth glir ar gyfer gosod sylfeini cadarnach ar gyfer twf, rhoi hwb i ddiwydiannau'r dyfodol a chryfhau rhanbarthau Cymru.
Mae ymateb cadarnhaol busnesau iddo wedi bod yn galonogol iawn a diolch i'r Cynllun Gweithredu, mae gennym bellach dros 100 o Gontractau Economaidd gyda chwmnïau ledled Cymru sy'n chwilio am ein cefnogaeth.
Mae'r Cynllun yn nodi hefyd bedwar sector sylfaen - bwyd, twristiaeth, adwerthu a gofal - sef asgwrn cefn ein heconomïau lleol.
Mae'r sectorau hyn yn dod â swyddi, nwyddau a gwasanaethau hanfodol i bobl yng nghalon eu cymunedau. Yn wir, mae'r sector gweithgynhyrchu bwyd a diod ar ei ben ei hun yn cyfrannu £4.8bn i'n heconomi ac yn cyflogi 23,000 o bobl ledled Cymru.
Heddiw, rwy am ddatgan o'r newydd fy ymrwymiad i gefnogi economïau'n rhanbarthau a gweithio gyda'r sector bwyd a chwmnïau fel Peter's i'w helpu i fanteisio ar bob cyfle i arloesi, esblygu, cynyddu'u cynhyrchiant a thyfu. Rydyn ni'n gweithio'n glos â'r sector i hyrwyddo gweithio yn y sector bwyd fel gyrfa ddeniadol all gynnig argoelion tymor hir a llwybr clir am ddyrchafiad."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:
"Mae'r amrywiaeth o fwydydd toes safri arobryn y mae Peter's Food wedi'u cynhyrchu dros flynyddoedd lawer yma ym Medwas yn drawiadol. Mae'r cwmni'n gyflogwr pwysig yn yr ardal ac rwy'n croesawu gweld penodi David Lloyd o Arloesi Bwyd Cymru fel y Cyfarwyddwr Anweithredol newydd."
Dywedodd Mike Grimwood, rheolwr gyfarwyddwr gwasanaeth bwyd Peter's Food:
"Rydyn ni'n croesawu'r ddau Ysgrifennydd Cabinet atom ni yma yn Peter's heddiw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn hynod gefnogol i'r cwmni Cymreig eiconig hwn dros nifer fawr o flynyddoedd, gan gydnabod rôl bwysig y cwmni yn y sector ac yn y gymuned leol hefyd - lle rydyn ni'n gyflogwr pwysig, yn cyflogi bron 700 o bobl leol."