Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraeth Cymru yw'r cyntaf i lofnodi Siarter UK Steel, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Ken Skates heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae UK Steel wedi creu'r Siarter i annog mwy i ddefnyddio dur a gynhyrchir yng Nghymru a'r DU mewn prosiectau adeiladu a seilwaith yn y DU trwy ofyn i sefydliadau gefnogi nifer o gamau caffael a chadw atynt. Cafodd y Siarter ei llofnodi ar ran Llywodraeth Cymru gan Ken Skates yn ystod cyfarfod â chynrychiolwyr y diwydiant dur yng ngwaith Tata Steel yn Shotton heddiw. 

Fel rhan o'i hymrwymiad i Siarter Steel UK, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i: 

  • Ofyn o ble mae'r dur a ddefnyddir ym mhrosiectau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn dod
  • Hysbysebu'n glir bob cyfle yn y dyfodol ar gyfer cyflenwi dur yng Nghymru 
  • Cysylltu'n gynnar ym mhob prosiect â chynhyrchwyr dur a chadwyni cyflenwi 
  • Penodi 'Hyrwyddwr Cadwyn Gyflenwi'r DU' i reoli cysylltiadau â'r sector dur 
  • Gosod safonau dur Prydeinig fel rhan o ofynion prosiectau 

Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates,

"Mae Cymru a chynhyrchu dur o'r ansawdd uchaf bellach yn gyfystyr. Mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ymladd yn ddiflino amdano dros y blynyddoedd diwethaf. 

"Mae'r Siarter Ddur hon yn arwydd arall eto o'n hymrwymiad i'r diwydiant. Mae'n ymrwymiad ymarferol, ystyriol ac ystyrlon gennym fel noddwyr a phrynwyr dur o Gymru, gan roi peth o'r sicrwydd sydd mawr ei angen ar y diwydiant a sicrhau lle gellir bod ein prosiectau'n elwa o ddefnyddio dur o ansawdd da o Brydain. 

"Mae'r Siarter yn ategu ein Nodyn Cyngor Caffael 2018 sy'n cefnogi defnyddio dur o Brydain, ac wrth inni geisio diogelu'r diwydiant dur yng Nghymru a'r DU ymhellach at y dyfodol, rwy'n galw ar Lywodraethau a phrynwyr o'r sector cyhoeddus o bob rhan o'r DU i ystyried yn ofalus sut y gallent hwythau chwarae eu rhan i gynyddu'n cefnogaeth i ddiwydiant dur Prydain." 

Gan gyfeirio at ymrwymiad Llywodraeth Cymru, dywedodd Gareth Stace, Cyfarwyddwr Cyffredinol UK Steel:

"Rwy'n anhygoel o falch mai Llywodraeth Cymru heddiw yw'r cyntaf i lofnodi Siarter UK Steel. Gyda thros hanner dur y DU yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru, mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru heddiw unwaith eto'n symboleiddio ac yn atgyfnerthu ei hymrwymiad i'n diwydiant, rhan ganolog o economi Cymru.”

"A hithau'n un o brynwyr dur mwyaf y DU, mae penderfyniadau caffael Llywodraeth Cymru'n cael effaith fawr ar y diwydiant dur a'i gadwyn gyflenwi.  Yn ogystal â chynyddu cyfleoedd i gyflenwi dur i brosiectau cyhoeddus Cymru, mae'r ymrwymiad heddiw yn esiampl i sefydliadau eraill ledled y DU i'w dilyn. Trwy wneud hyn, mae Llywodraeth Cymru'n hyrwyddwr arfer cyhoeddus da. “

Dywedodd Deirdre Fox, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Strategol Tata Steel a Chadeirydd Pwyllgor Caffael UK Steel:

"Mae Tata Steel yn falch o gael bod yn rhan o siarter UK Steel ac yn hynod blês mai Llywodraeth Cymru yw ei phartner cyntaf. Rydyn ni'n cyflogi dros 6,000 o bobl yng Nghymru a miloedd yn ein cadwyn gyflenwi - felly roedd yn briodol gweld mai'r Llywodraeth yng Nghaerdydd oedd y cyntaf i ddangos y ffordd a bydd ei hymrwymiad aruthrol o bositif yn annog eraill i ddilyn yr un trywydd. 

"Fel cwmni, mae chwarter o'r hyn a gynhyrchwn yng Nghymru yn cael ei werthu i sector adeiladu'r DU yn ogystal â chael ei allforio i'r UE a gweddill y byd. Mae'r dur adeiladu nodedig ac unigryw rydym yn ei gynhyrchu yng Nghymru yn golygu bod adeiladau a phrosiectau seilwaith eiconig yn gallu cael eu dylunio a'u hadeiladu mewn ffordd ddiogel a amgylcheddol gynaliadwy. Mae dur lleol, uchel ei werth a'i ansawdd yn hanfodol i sector adeiladu cryf a byrlymus yng Nghymru a gwledydd eraill y DU."