Neidio i'r prif gynnwy

Os caiff y cynnig ei weithredu, bydd yn gosod Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr o fewn patrwm partneriaethau rhanbarthol y De-ddwyrain ar gyfer darparu gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Os caiff y cynnig ei weithredu, bydd yn gosod Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr o fewn patrwm partneriaethau rhanbarthol y De-ddwyrain ar gyfer darparu gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan ategu eu partneriaethau presennol y Cyngor ar gyfer yr economi ac addysg.

Wrth siarad am y cynnig, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Rydyn ni wedi trafod y cynigion hyn gydag arweinwyr Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, a Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Cwm Taf, ac rydyn ni'n cydnabod y gwaith gwerthfawr sy'n cael ei gyflawni gan staff ymroddgar y gwasanaethau cyhoeddus a'r awdurdod lleol.

“Mae'r Byrddau Iechyd a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi dweud y byddai creu sicrwydd ynghylch y bwriad i newid y ffiniau o fantais i'r cyhoedd a'r staff, ac maen nhw wedi ymrwymo i ymgysylltu â'r cyhoedd, yr undebau llafur, a'r staff yn ystod y cyfnod ymgynghori ac wedi hynny. 

“Mae gwaith sylweddol wedi ei gyflawni i ganfod y ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu gwasanaethau brys a gwasanaethau ysbyty ar draws y byrddau iechyd yn y De. Ni fydd unrhyw newid i ffiniau Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwn, yn effeithio ar y penderfyniadau sydd wedi deillio o hynny.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies:

“Diben y newid arfaethedig yw sicrhau bod gwaith a phenderfyniadau'r partneriaethau ar draws y De yn fwy effeithiol o fewn y bwriad ehangach i ddiwygio llywodraeth leol.

“Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau yng Nghymru eisoes yn gweithio mewn partneriaethau gyda'r un awdurdodau o ran eu gweithgarwch economaidd, eu gwasanaethau iechyd, a'u swyddogaethau eraill. Os bydd y newid yn cael ei weithredu, bydd trefniadau Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn debycach i drefniadau partneriaeth yr holl awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

“Dw i'n ddiolchgar i arweinwyr Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, a Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf am eu cymorth a'u cyfraniad at y gwaith o ddatblygu'r cynnig at ddibenion ymgynghori.

“Byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid er mwyn sicrhau bod pob agwedd ar y cynnig yn cael ei archwilio mewn modd priodol ac agored.”

Er bod Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn y De-ddwyrain i sicrhau bod ei weithgarwch economaidd yn mynd rhagddo, ar hyn o bryd rhaid iddo weithio gydag awdurdodau lleol yn y De-orllewin o fewn Bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wrth ddarparu ei wasanaethau gofal iechyd.

Os caiff ei weithredu, bydd y newid arfaethedig hwn yn sicrhau nad yw Pen-y-bont ar Ogwr o dan anfantais o orfod gweithio ar draws dwy ardal strategol wahanol.