Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cefnogaeth i deuluoedd plant sy’n cael prydau ysgol am ddim.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd hyd at £7 miliwn o gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i roi cymorth ariannol ar frys i deuluoedd disgyblion sy’n dibynnu ar brydau ysgol am ddim ond sy’n methu eu cael am fod ysgolion yn cau.             

Bydd cyfarwyddyd yn cael ei roi i awdurdodau lleol i wneud trefniadau i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn cael mynediad i ddarpariaeth arall.

Mae pob awdurdod lleol ledled Cymru wedi dechrau gwneud darpariaeth argyfwng ar gyfer teuluoedd gyda phrydau, gan gynnwys cyfleusterau casglu o ysgolion, neu ddosbarthu bwyd i’r cartref neu leoliadau cymunedol.

Bydd awdurdodau lleol yn cael opsiwn i ddarparu cardiau rhodd ac e-dalebau gan fanwerthwyr bwyd lleol a’u dosbarthu i deuluoedd. Nod y cyfarwyddyd yw sicrhau bod arfer da yn parhau.                      

Mae’n fwriad i’r mesurau fod yn ddatrysiad cyflym, ond dros dro, tra bo opsiynau eraill yn cael eu gweithredu a phecyn mwy cynhwysfawr o gefnogaeth yn cael ei ddarparu i deuluoedd agored i niwed.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

“Rydw i wedi bod yn glir bod rhaid i ni, wrth weithredu mewn ffordd bendant a hanfodol yn erbyn coronafeirws, gofio am y plant y mae’r ysgol yn darparu llawer mwy nag addysg iddyn nhw.                 

“Mae’n hanfodol bod plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim yn gallu parhau i elwa o’r gefnogaeth hon yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd.         

“Rydw i wedi rhoi gwybod eisoes i awdurdodau lleol am y cyllid ychwanegol yma, a fydd yn galluogi iddyn nhw roi sylw i anghenion brys ar lefel leol – yn ddi-oed – fel bod y gefnogaeth yn gallu cyrraedd y plant a’r teuluoedd sydd ei hangen fwyaf.”