Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gadarnhau, yn dilyn sgyrsiau cynhyrchiol gyda prif bartneriaid sy’n rhan o Dasglu Tesco

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r pecyn wedi ei gynllunio’n benodol i gynnig y lefel uchaf o gymorth i bob gweithiwr yr effeithiwyd arnynt i’w helpu i gael gwaith yn y dyfodol.  

Yr amserlenni ar gyfer y mesurau a’r cyflenwi addewidion y cytunwyd arnynt yw:  

  • Rhwng nawr a diwedd Hydref, bydd tîm dysgu a datblygu mewnol Tesco yn darparu sgiliau paratoi CV a chyfweliadau i bob aelod staff.  Bydd hefyd yn cynnig hyfforddiant sgiliau ychwanegol a chyngor gan Gyrfa Cymru.  Bydd arbenigwyr Gyrfa Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith ar safle Caerdydd i helpu staff o yfory ymlaen (Medi 19)
  • Mae Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru (WCCF) yn gweithio gyda Tesco a phartneriaid allweddol eraill i ddarparu rhaglen dreigl o ymweliadau gan ddarpar gyflogwyr drwy gydol mis Tachwedd 2017.  Bydd hyn yn cael ei wneud hefyd ym mis Ionawr 2018.  Mae dros 20 o fusnesau llwyddiannus eisoes wedi dangos diddordeb i fod yn rhan o’r ymweliadau hyn.
  • Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â’r WCCF, yn datblygu pecyn gwybodaeth ar gyfer cyflogwyr i’w gwneud yn ymwybodol o’r cymorth a’r mentrau posibl sy’n cael eu cynnig trwy raglenni megis ReAct neu ynghylch derbyn gweithwyr sy’n wynebu diweithdra.

Bydd Tesco yn rhannu’r gwahoddiadau i weithwyr i drafod eu pecynnau diweithdra yn ystod wythnos gyntaf Ionawr 2018.  O hyn ymlaen, bydd pob gweithiwr yn gymwys ar gyfer rhaglen ReAct 3 Llywodraeth Cymru, a’r ystod eang o gymorth ychwanegol a’r mentrau y mae’n eu cynnig.  

Meddai Ysgrifennydd yr Economi a Chadeirydd Tasglu Tesco, Ken Stakes:

“Dwi’n gwybod bod penderfyniad Tesco i gau ei chanolfan gyswllt yng Nghaerdydd wedi bod yn ergyd i’r staff dawnus a gweithgar, ac addewais bryd hynny y byddwn yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi’r gweithwyr drwy’r amser anodd yma.  Er fy mod yn gwerthfawrogi bod llawer o bobl yn anhapus â’r penderfyniad, rwy’n gobeithio, trwy roi amlinelliad o’r hyn y gall y staff ei ddisgwyl dros y misoedd nesaf, y bydd yn rhoi rhywfaint o eglurder a sicrwydd i bawb yr effeithiwyd arnynt.”

Ychwanegodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, sy’n arwain ym maes cyflogadwyedd ar draws Llywodraeth Cymru: 

“Rydym yn gwerthfawrogi pa mor anodd fu’r misoedd diwethaf i’r staff, ac un o’n prif flaenoriaethau drwy gydol yr haf fu gweithio gyda phartneriaid ein tasglu i sefydlu amrywiol fesurau cyn gynted â phosib, a sicrhau y canlyniad gorau un i’r gweithwyr yr effeithwyd arnynt.  

“Rydym wedi clywed gan dros ugain o gwmnïau llwyddiannus yn Ne Cymru y byddai ganddynt ddiddordeb darparu cyfleoedd am waith i staff Tesco sydd mewn perygl o golli eu swyddi, a bydd nifer o’r gweithwyr yn cymeryd rhan yn yr ymweliadau gan gyflogwyr sy’n cael eu trefnu i weithwyr drwy gydol Tachwedd a Ionawr.”  

Meddai Rob Graham, Cyfarwyddwr y Canolfannau Cyswllt i Gwsmeriaid:  

“Ers cyhoeddi ein cynlluniau i gau y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid, rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chynrychiolwyr lleol o Usdaw i gefnogi ein cydweithwyr yng Nghaerdydd.  Mae nifer o gyflogwyr eraill wedi dangos diddordeb mewn derbyn gweithwyr sydd yn Tesco House ar hyn o bryd, ac wedi sefydlu mesurau i’w helpu i drefnu gwaith arall.  Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y cymorth ychwanegol y byddant yn ei ddarparu.”