Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi canllawiau i GIG Cymru ar sut y dylid gofalu am fabanod sy’n cael eu geni ar y trothwy goroesi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r canllawiau a geir mewn Cylchlythyr Iechyd Cymru, yn nodi’r hyn y mae’n rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ei wneud, er mwyn gofalu am fabanod sy’n cael eu geni’n fyw cyn cyfnod beichiogrwydd o 24 wythnos. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar sut i gefnogi teuluoedd y babanod hynny, gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau am y gofal a’r driniaeth y mae’r babanod sydd wedi eu geni’n gynnar yn ei dderbyn. 

Datblygwyd y Cylchlythyr mewn ymateb i bryder gan aelod o’r cyhoedd, sef Emma Jones. Roedd yn pryderu nad oedd y canllaw presennol i weithwyr iechyd proffesiynol gan Gymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain yn nodi beth ddylai’r GIG ei wneud i ofalu am fabanod sydd wedi eu geni’n fyw cyn cyfnod beichiogrwydd o 24 wythnos. Daw hyn yn sgil marwolaeth ei mab, Riley, a fu farw wedi iddo gael ei eni yn 22 wythnos a 4 diwrnod ym mis Rhagfyr 2013.

O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag Emma Jones dros y blynyddoedd diwethaf i ddatblygu canllawiau ychwanegol sy’n hybu gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i famau babanod sy’n cael eu geni’n fyw cyn cyfnod beichiogrwydd o 24 wythnos, a sicrhau hefyd fod y gwasanaethau hynny yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn dosturiol. 

Yn ôl y canllawiau, pan fo disgwyl i fabi gael ei eni’n gynnar ar y trothwy goroesi, neu pan fo hynny yn digwydd, dylai timau mamolaeth ymgynghori â’r timau pediatreg neu’r timau newyddenedigol sydd ar alwad (cyn i’r babi gael ei eni os yw hynny’n bosib), i sicrhau bod yr asesiadau clinigol yn cael eu cynllunio a’u cynnal. 

Hefyd, bydd teulu’r babi yn cael ei gynnwys yn y broses o benderfynu ynghylch ei ofal parhaus. Mae’r canllawiau’n ystyried y cyngor proffesiynol sydd ar gael i glinigwyr ar gyfer gofalu am fabanod sy’n cael eu geni ar y trothwy goroesi.

Mae angen gwasanaethau profedigaeth ar lawer o deuluoedd ac, erbyn hyn, mae gan bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru fydwraig profedigaeth sy’n arwain er mwyn hybu’r arferion gorau.

Dywedodd Emma Jones: 

“Dechreuodd hyn i gyd wrth i mi gyflwyno deiseb wedi ei llofnodi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Mae marwolaeth Riley wedi arwain at frwydr i newid y drefn. Heddiw mae’r frwydr honno wedi ei hennill.”


Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru a Chyfarwyddwr GIG Cymru,  Dr Frank Atherton:

“Pan fo babi’n cael ei eni yn gynnar iawn, mae rhieni a gweithwyr proffesiynol yn wynebu penderfyniadau anodd a all beri gofid. Diolch i ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth feddygol mae gofal i fabanod sy’n cael eu geni yn gynnar iawn, yn enwedig cyn cyfnod beichiogrwydd o 26 wythnos, wedi gwella. Er hynny mae pen draw i’r hyn sy’n bosib ei oroesi. 

“Hyd yn oed pan fo babanod bach iawn yn cael eu geni’n fyw, efallai na fydd modd eu dadebru oherwydd bod eu llwybrau anadlu a’u hysgyfaint yn rhy anaeddfed a brau i gymryd tiwbiau i’w helpu i anadlu, a bod eu pibellau gwaed yn rhy fach i allu rhoi hylifau a meddyginiaethau iddynt. 

“Roedd yn amlwg bod angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu’r canllawiau ychwanegol hyn, oherwydd nad yw’r canllawiau proffesiynol presennol gan Gymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain yn nodi beth ddylai’r GIG ei wneud er mwyn gofalu am fabanod sy’n cael eu geni’n fyw cyn cyfnod beichiogrwydd o 24 wythnos.

“Diolch o waelod calon i Emma Jones am fod yn barod i rannu ei phrofiadau poenus â ni. Diolch iddi hefyd am gydweithio â ni i ddatblygu’r canllawiau newydd. Bydd hyn o fudd i wasanaethau mamolaeth yn ei gwaith o gefnogi mamau a theuluoedd mewn ffordd sensitif pan fo babanod yn cael eu geni ar y trothwy goroesi.”