Neidio i'r prif gynnwy

Mae Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant wedi pwyso ar bobl i rannu eu safbwyntiau ar fagu plant fel rhan o ymgyrch #Trafodmaguplant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod yr ymgyrch, sy'n cael ei lansio heddiw, yw ymgysylltu'n eang â phobl ledled Cymru er mwyn helpu i lywio cynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gael gwared â "chosb resymol" fel amddiffyniad. Ei phwrpas yw dysgu mwy am ddealltwriaeth ymarferol pobl o'r gyfraith bresennol a nodi unrhyw bryderon am sut y byddai newid yn y gyfraith yn cael ei weithredu. 

Gwahoddir y rheini sydd â chyfrifoldebau magu plant, ac eraill sydd â diddordeb, i roi eu barn drwy arolwg am fagu plant a disgyblu ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae adran "Cwestiynau Cyffredin" ar y wefan hefyd a ffeithluniau sy'n dangos agweddau cyffredinol rhieni at gosb gorfforol. Yn ogystal, gall pobl gymryd rhan mewn sgwrs ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio #TrafodMaguPlant. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae yna fwy a mwy o dystiolaeth sy'n dangos nad yw cosb gorfforol yn effeithiol ac y gallai fod yn gwneud niwed i blant; ac eto mae'n dal yn gyfreithlon. 

"Dw i eisiau mynd i'r afael â'r amryfusedd yma ac anfon neges glir nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol bellach mewn cymdeithas fodern. Dw i hefyd o'r farn y bydd cael gwared â "chosb resymol" fel amddiffyniad yn annog rhieni plant bach i ddefnyddio technegau mwy cadarnhaol i fagu eu plant, y profwyd eu bod yn fwy effeithiol.

"Dw i'n pwyso ar rieni a phawb sydd â diddordeb i gadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol am ein hymgyrch #TrafodMaguPlant a rhoi eu barn."