David O’Sullivan sydd wedi ei benodi'n Brif Gynghorydd Optometrig i Lywodraeth Cymru.
Enillodd Mr O’Sullivan ei gymhwyster fel optometrydd o Brifysgol Caledonian Glasgow ac Ysbyty Cyffredinol Leeds.
Bu'n gwasanaethu fel Cynghorydd Optometrig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am dros 14 o flynyddoedd, lle bu'n helpu i arwain y gwaith o sefydlu cynlluniau a gwasanaethau ar gyfer gwella offthalmoleg ac optometreg ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Yn fwy diweddar, mae wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Optometrig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Yn ei swydd newydd fel Prif Gynghorydd Optometrig, bydd yn rhoi cyngor proffesiynol annibynnol i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwasanaethau optometrig a materion iechyd llygaid yng Nghymru. Bydd hefyd yn arwain ar ddatblygu polisi a deddfwriaeth yn Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r proffesiwn optometreg a gwasanaethau iechyd llygaid.
Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd Dr Frank Atherton:
“Mae'n bleser mawr gen i gyhoeddi penodiad David O’Sullivan yn Brif Gynghorydd Optometrig i Lywodraeth Cymru.
“Bydd yn chwarae rôl allweddol drwy helpu i wella iechyd llygaid yng Nghymru, a bydd yn darparu arweinyddiaeth broffesiynol i'r rheini sy'n gweithio ym maes optometreg ledled y wlad. Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef i wella iechyd llygaid a lleihau anghydraddoldebau.”
Dywedodd David O’Sullivan:
"Dw i wrth fy modd o gael y cyfle i ymgymryd â'r swydd hon a pharhau â'r gwaith rhagorol sydd wedi ei wneud hyd yn hyn. Mae Cymru'n lle cyffrous iawn i ymarfer optometreg ac mae'r proffesiwn wedi gweithio'n ddiflino i wella iechyd llygaid pobl Cymru.
“Mae'n fraint gweithio gyda grŵp o weithwyr proffesiynol mor ymroddedig sy'n parhau i wthio'r ffiniau ar draws gofal sylfaenol a gofal eilaidd er lles eu cleifion. Dw i'n edrych ymlaen at fwrw ymlaen â'r gwaith o hwyluso newidiadau a gwelliannau pellach er budd pawb yng Nghymru."