Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru, Emma Watkins, yn ymuno â Llywodraeth Cymru i reoli'r berthynas â rhai o gyflogwyr busnes mwyaf a phwysicaf Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates, yn croesawu'r penodiad. Dywedodd: 

"Bydd Emma yn werthfawr i dîm Economi a Seilwaith Llywodraeth Cymru. Ar ôl bod yn flaenllaw ym myd busnesau Cymru am sawl blwyddyn, mae ganddi'r profiad, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i chwarae rhan allweddol wrth gryfhau perthynas Llywodraeth Cymru â'n Cwmnïau Angori a'n Cwmnïau o Bwys Rhanbarthol yn ystod y cyfnod heriol hwn."

Dywedodd Ms Watkins, fydd yn ymuno â Llywodraeth Cymru fis nesaf: 

"Rwy'n hapus iawn fy mod yn ymuno â Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn i’n heconomi. Ar ôl gweithio'n helaeth â busnesau ar draws y DU wrth weithio i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, rwy'n disgwyl ‘mlaen at chwarae rhan bwysig i wella economi Cymru o du fewn i'r Llywodraeth.  

"Mae gan Gymru fusnesau gwych ac rwy'n edrych ymlaen at eu helpu i barhau i ffynnu, a denu mwy o fusnesau i Gymru wrth i ni sicrhau gwlad decach a mwy llwyddiannus.”