Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wedi cyhoeddi y bydd y gwasanaeth awyrennau rhwng Ynys Môn a Chaerdydd yn gweithredu fel arfer o ddydd Llun ymlaen, gan sicrhau na fydd tarfu ar deithwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud trefniant gydag Eastern Airways i sicrhau nad oes unrhyw darfu ar ddefnyddwyr y gwasanaeth o ganlyniad i ddiddymu cwmni Citywing.

Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Dwi’n ddiolchgar iawn i Eastern Airways, yr Awdurdod Hedfan Sifil, Meysydd Awyr Caerdydd ac Ynys Môn ac RAF y Fali am eu cefnogaeth ac am helpu i wneud yn siŵr bod y pontio hwn rhwng cwmnïau wedi digwydd mor gyflym.”   

Bydd pob tocyn ar gyfer gwasanaeth Citywing rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yr wythnos nesaf yn iawn i’w defnyddio a gofynnir i deithwyr ddod â phrawf o’u harcheb Citywing gyda hwy i’r maes awyr wrth deithio.   

Mae croeso i deithwyr sydd ag unrhyw gwestiynau am eu taith gysylltu ag Eastern Airways yn uniongyrchol ar 01652 680 600.